Sut i animeiddio: canllaw gam wrth gam gyda lluniau i’ch rhoi ar ben y ffordd

 

 Creu Pobl

Mae angen pobl yn y rhan fwyaf o ffilmiau. Os oes angen llawer o bobl yn eich ffilm, dylech greu’r cyfan gyda’i gilydd ac i’r un raddfa. Mae hyn yn golygu y bydd y plant i gyd fwy neu lai yr un maint â’i gilydd ac yn llai na’r oedolion! Ni ddylai unrhyw gymeriad fod yn fwy na 10cm o daldra.

Gallwch greu pobl gan ddefnyddio dau siâp sylfaenol – peli a selsig. Gwnewch ben siâp pêl; defnyddiwch selsigen dew ar gyfer y corff a 4 o rai teneuach ar gyfer y coesau a’r breichiau. Cofiwch fod angen i’r coesau fod yn dew a bod angen i’r traed fod yn fawr er mwyn cadw’r cymeriad i sefyll ar ei draed. Er mwyn gwneud y broses yn haws ac yn gyflymach, gwnewch y darnau o’r corff yr un lliw â dillad y person. Unwaith y byddwch yn hapus gyda bob rhan o’r corff, gludwch nhw at ei gilydd drwy esmwytho’r clai dros yr uniad.

 

 

 Manylion yr Wyneb

Gallwch roi cymaint o fanylion ag y dymunwch ar wyneb eich person. Gallwch greu pob math o steiliau gwallt a nodweddion wyneb. Gadewch i’ch dychymyg fynd yn wyllt!

Bydd gwneud y geg yn un y gellir ei thynnu i ffwrdd yn golygu eich bod yn gallu creu amrywiaeth o wynebau gwahanol. Os ydych am i’ch cymeriad flincio neu wincio, mae angen i’r llygaid allu dod i ffwrdd hefyd. Yn olaf, mae manylion yn dangos yn well os gwnewch i bethau sticio allan yn hytrach na’u gwthio i mewn – felly gwnewch lygaid, clustiau a chegau ar wahân, yn hytrach na’u crafu i mewn i’r clai.

 

 

 

 Ategolion

Yn union fel pobl go iawn, mae angen mygiau, cwpanau, poteli, bwyd ac ati ar bobl clai. Gwnewch yn si%3;r eich bod yn creu’r props yma cyn dechrau ffilmio.

 

 

 Gwneud y Golygfeydd

Awgrymwn eich bod yn defnyddio bocsys esgidiau i greu ystafelloedd, gan eu bod yn addas i’r raddfa. Gallwch ddefnyddio dodrefn t%5; dol neu wneud dodrefn allan o gardfwrdd. Dydyn ni ddim yn argymell gwneud dodrefn na cheir clai gan eu bod yn defnyddio llawer iawn o glai ac maen nhw’n anodd eu gwneud yn iawn. Gwnewch nhw allan o gardfwrdd neu ddefnyddio ceir tegan.

 

 
Bedroom Scenary made from shoe box and dolls house furniture

 Gosod yr Olygfa

Yn ystod ein prosiect fe ddefnyddion ni Logitech Camera and Image Studio i greu’r animeiddio. Os ydych chi’n defnyddio’r feddalwedd hon, gosodwch hi ar Stop Motion Animation ar 8 ffrâm yr eiliad. Mae hyn yn golygu mai dim ond 1/8 o eiliad yw hyd pob llun.

Os ydych chi’n defnyddio golygfeydd, gwnewch yn si%3;r fod eich camera wedi’i leoli i weld y tu mewn i’r ystafell yn unig (ac nid y bwrdd nag unrhyw beth y tu ôl i’r ystafell). Bydd angen 2-3 person arnoch chi hefyd i symud y cymeriadau, 1 person i weithio’r cyfrifiadur a chyfarwyddwyr i ddweud pryd mae’r dwylo’n dal yn y ffrâm ac i awgrymu sut i symud y cymeriadau.

 

 

 
Setting the scene

 Gwneud iddyn nhw symud

Gan mai dim ond 1/8 o eiliad yw pob llun, mae hyn yn rhoi digon o gyfle i wneud i bob symudiad o eiddo’r cymeriadau fod mor realistig â phosibl.

Ar ôl ffilmio pob ffrâm, meddyliwch am sut y bydd eich cymeriad yn cyrraedd eu lleoliad nesaf a symudwch bob rhan yn araf nes cyrraedd y lle iawn. Os symudwch y cymeriad gormod ar y tro, bydd yn edrych fel ei fod yn neidio o fan i fan.

Meddyliwch am bob agwedd o’r cymeriad. Cofiwch os yw pobl ar fin cael eu saethu neu os ydyn nhw’n sâl, dydyn nhw ddim yn gwenu! Gallwch chwyddo i mewn neu allan ar olygfa drwy symud y camera i mewn ac allan yn yr un ffordd ag yr ydych yn symud y cymeriadau. Symudwch y camera ychydig bach, bach, a thynnwch lun; wedyn symudwch y camera eto.

 

 

 Gwaedu, Chwydu, Crïo a Phiso

Gall eich person clai wneud popeth y gallwch chi ei wneud. Os ydych am i hylifau’r corff fod yn rhan o’r llun yna bydd rhaid i chi wneud yr hylif allan o glai. Bydd angen ychydig bach arnoch chi i ddechrau ac yna pwll cynyddol wrth i’r hylif gyrraedd y llawr. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno’r hylif, ychwanegwch ychydig bach o’r lliw iawn i ddechrau, ac yna ychydig mwy ar gyfer pob llun. Cofiwch fod hylif yn symud drwy’r amser – felly yn ogystal ag ychwanegu mwy, rhaid i chi symud yr hyn sydd yno’n barod.

 

Cliciwch ar lun i gael clip ffilm

 Fflachio neu Flincio

Er mwyn gwneud y golygfeydd yn fwy realistig byth, gallwch wneud i’r cymeriadau flincio neu i oleuadau fflachio. Yn syml, ffilmiwch y cymeriadau gyda’u llygaid ar gyfer un llun, ac yna eu tynnu i ffwrdd ar gyfer y llun nesaf. Os ydych am wneud i’r goleuadau fflachio, defnyddiwch yr un dechneg. Os ydych yn gwneud ambiwlans, mae’n edrych yn dda iawn i newid lliw’r golau o goch i las bob yn ail llun.

 

 

Hedfan

Mae gwneud i bethau hedfan yn eithaf anodd mewn animeiddio treigl amser, ond gallwch hongian pethau gan ddefnyddio edafedd tryloyw neu wifren bysgota i wneud iddynt ymddangos fel pe baen nhw’n hedfan.

 
Cliciwch ar lun i gael clip ffilm