Staff

Martin Pollard - Swyddog Addysg

Graddiodd Martin o Brifysgol Caerdydd ym 1995, cyn hyfforddi i fod yn athro ysgol uwchradd. Ar ôl treulio dwy flynedd yn dysgu Saesneg mewn ysgol gyfun yng Nghasnewydd, ymunodd â CEWC-Cymru ym mis Medi 2001. Ers hynny, mae wedi rhedeg rhaglen graidd gwaith CEWC-Cymru, sy’n cynnwys cynadleddau, gwaith dadlau, hyfforddi athrawon a gweithdai yn y dosbarth. Mae hefyd yn datblygu ac yn rheoli gwaith prosiect CEWC-Cymru.

E-bost: martinpollard@wcia.org.uk

 

Ona Flindall - Cyd-Lynydd Rhaglenni

Ymunodd Ona â ni ym mis Mehefin 2008, yn trefnu gweithgareddau ar gyfer CEWC-Cymru a’r Ganolfan. Wedi graddio o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, mae hi hefyd wedi gweithio i Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn Norwy. Aeth Ona i Dsieina i gymryd swydd dysgu yn 2004 a datblygu ei diddordeb yn rhyngwladoldeb a photensial pobl ifanc. Mae Ona yn credu mai trwy gynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r byd a’i phobl y byddwn yn gallu magu dyfodol o barch ac o undod.

E-bost: onaflindall@wcia.org.uk

 

Stephen Thomas - Ysgrifennydd

Mae Stephen wedi bod yn Gyfarwyddwr Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol ers 1996, ac mae’n goruchwylion holl waith CEWC-Cymru yn y swydd gyfansoddiadol o Ysgrifennydd. Yn flaenorol, bu’n rheoli rhaglenni cymorth a datblygu i Gronfa Achub y Plant a Comic Relief.

E-bost: stephenthomas@wcia.org.uk

 

Jess Lewis - Cynorthwywraig Swyddfa

Ymunodd Jess â CEWC-Cymru ym mis Mai 2008 fel Cynorthwy-ydd Swyddfa. Yn ogystal â siarad Cymraeg yn rhugl, astudiodd Jess Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg at lefel A cyn gweithio yn adran Adnoddau Dynol Barnardo’s Cymru. Mae hi wedi dychwelyd yn ddiweddar o’i thaith ar draws Ewrop, Siapan ac America ac yn meddwl am y profiad hwn fel pinacl ei bywyd hyd yma.

E-bost: jesslewis@wcia.org.uk

Martin Pollard

 

 

Ona Flindall

 



Stephen Thomas

Jess Lewis