Prosiect "Inclusion" – dinasyddiaeth weithredol ar gyfer disgyblion a myfyrwyr difreintiedig


Yn ystod prosiect Inclusion (2005-2007), buom yn gweithio gyda phobl ifainc mewn lleoliadau Anghenion Arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac unedau diogel ar gyfer troseddwyr ieuainc, er mwyn datblygu eu Sgiliau Allweddol a’u dealltwriaeth o themâu dinasyddiaeth. 

Datblygodd cynllun gwaith arloesol ar sail y prosiect hwn, ac mae ar gael yn rhan o’n DVD adnoddau Inclusion. Dechreubwynt y cynllun yw 4 gweithgaredd ystafell-ddosbarth, sy’n seiliedig ar ddeunyddiau sbardun ar fideo ac ar brint, ac sy’n mynd i’r afael â themâu empathi, hawliau plant, cyfranogiad a datrys problemau’n effeithiol.

Penllanw’r cynllun gwaith yw prosiect animeiddio. Bydd pobl ifainc yn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau maent wedi eu datblygu yn ystod y sesiynau blaenorol i greu diweddglo stori gan ddefnyddio dim ond plastisin a gwe gamera! Mae ein horiel fideo isod yn arddangos gwaith y disgyblion a myfyrwyr fu’n cymryd rhan yn y prosiect.

Gweler ein canllaw ffotograffig cam-wrth-cam i animeiddio gan ddefnyddio clai!


DVD adnoddau Inclusion

(£6 gan gynnwys cludiant)

Mae ein DVD Inclusion yn cynnwys y ffilm Who Killed Simone Valentine?, ynghyd â dwy set o adnoddau dysgu:

Who Killed Simone Valentine?
Ein cynllun gwaith gwreiddiol, a gynlluniwyd ar gyfer disgyblion a myfyrwyr difreintiedig. Mae’n defnyddio’r ffilm Simone Valentine, sy’n cynnwys golygfeydd lle gwelir hunan-niweidio, chwistrellu cyffuriau a golygfa rywiol gymharol ddiniwed.

Problemau Sioned
Mae’n debyg nad yw ambell i olygfa yn Simone Valentine yn addas ar gyfer pob disgybl. Ar gyfer lleoliadau prif ffrwd, felly, rydym yn argymell Problemau Sioned.


Roedd prosiect Inclusion yn rhan o bartneriaeth ‘Equal Shares for All’ gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Cafwyd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, All Different – All Equal (Ymgyrch Ieuenctid Ewropeaidd) ac Equitable Charitable Trust.

Cefnogi Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang