Athroniaeth i Blant: Hyfforddiant i athrawon
Gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi o unrhyw hyd ym maes P4C/sgiliau meddwl, ac i unrhyw ysgol yng Nghymru. (Byddwn hefyd yn ystyried comisiynau y tu allan i Gymru - cysylltwch â ni i drafod hyn os gwelwch yn dda.)
Mae ein cleientiaid blaenorol yn cynnwys ESIS, Partneriaeth Addysg-Busnes Canol Morgannwg, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Bwrdeistref Torfaen, Gyrfa Cymru Gorllewin a sawl ysgol unigol.
Gallwn deilwrio cyrsiau at eich anghenion chi, ond dyma ein hopsiynau hyfforddi safonol:
- Cwrs Lefel 1 mewn Athroniaeth i Blant – cyflwyniad 2-ddiwrnod llawn, gydag ardystiad gan SAPERE
- Cwrs cyflwyno undydd – sy’n trafod y cysylltiadau rhwng Sgiliau Meddwl (gan gynnwys P4C) a’r ddarpariaeth ar gyfer addysg ym maes dinasyddiaeth fyd-eang
- Sesiynau byrrach, a gynhelir wedi oriau ysgol neu ar y cyd â chyrff ymgynghorol
Martin Pollard, ein Swyddog Addysg, sy’n arwain pob cwrs. Mae Martin yn athro cymwysedig ac wedi ei achredu i ddarparu cyrsiau Lefel 1. Mae hefyd yn ymgynghorydd ar gyfer Dialogue Works ac mae wedi cwblhau cwrs ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’ gyda Cyfanfyd.
Os hoffech chi i ni ddarparu sesiwn hyfforddi yn eich ysgol chi, rydym yn awgrymu i chi ddod yn Aelod Gyswllt o CEWC-Cymru er mwyn cael y prisiau isaf:
Math o hyfforddiant |
Y gost ar gyfer ysgol/coleg sy’n Aelod Cyswllt |
Y gost ar gyfer rhai nad ydynt yn aelodau / clwstwr ffurfiol o ysgolion |
| Pob sesiwn hyfforddi ar wahân i gyrsiau Lefel 1 | Diwrnod llawn £420 neu £85 / awr |
£500 diwrnod llawn neu £100 / awr Ar gyfer corff / AALl sydd heb fod yn gysylltiedig â CEWC-Cymru: |
| Cwrs Lefel 1 yn P4C (2 ddiwrnod) – gan gynnwys tystysgrifau a 2 lawlyfr cwrs |
£1,040 Ar gyfer cyrsiau ‘gwahoddiad cyffredinol’: £250/yr athro (£200 ar gyfer ail athro a phob athro arall o’r un ysgol) – gan gynnwys llawlyfrau/tystysgrifau |
£1,200 Ar gyfer cyrsiau ‘gwahoddiad cyffredinol’: £250/yr athro (£200 ar gyfer ail athro a phob athro arall o’r un ysgol) – gan gynnwys |
| Pecyn Cyflwyno Lefel 1 – ar gyfer 1 ysgol yn unig |
£1,150 |
Ddim yn berthnasol |
Nodwch os gwelwch yn dda:
- Darperir y cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg.
- Mae’n bosibl y codir treuliau teithio/llety yn ogystal â’r ffioedd uchod.