Sgiliau i ddinasyddion ifainc

Yn ogystal ag addysgu disgyblion am faterion byd-eang, cafodd holl weithgareddau craidd  CEWC-Cymru eu cynllunio er mwyn datblygu sgiliau fel Cyfathrebu, Meddwl a Gweithio gydag Eraill. Mae’r rhain yn rhan o gwricwlwm cenedlaethol cyfredol Cymru, ac wrth graidd dinasyddiaeth weithredol ac effeithiol.

Mae ein gwaith ar y dull Athroniaeth i Blant yn rhan bwysig o’n cyfraniad at ddatblygu sgiliau.

Yn ogystal â hyn, bu nifer o brosiectau blaenorol yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifainc i gyfranogi’n effeithiol yn eu cymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ar gynghorau ysgol effeithiol a chynnwys pobl ifainc difreintiedig mewn addysg ddinasyddiaeth.

Philosophy for Children