CEWC-Cymru yw’r gangen ysgolion i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, elusen gofrestredig sydd yn galluogi pobl yng Nghymru i ddeall ac ymwneud â phynciau byd-eang.

Mae ein cartref parhaol yn y Deml Heddwch yng nghanolfan ddinesig Caerdydd, er bod staff yn teithio ledled Cymru i ymweld ag ysgolion, cwrdd â phartneriaid a chymryd rhan mewn cynadleddau perthnasol.

Mae’n gwaith wedi’i rannu’n ddau fath:

  • Gweithgareddau craidd, sy’n cynnwys digwyddiadau, gwaith dadlau, hyfforddi staff a gweithdai yn y dosbarth. Ein Swyddog Addysg sy’n darparu’r gwaith hwn yn bennaf.
  • Gwaith prosiect er mwyn cefnogi gwahanol agweddau ar addysg ym maes dinasyddiaeth fyd-eang a chynhyrchu adnoddau dysgu.

Er mwyn cwrdd â’n hamcanion, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o ysgolion, awdurdodau addysg lleol a mudiadau eraill ar hyd a lled Cymru. Os yw’ch ysgol am weithio’n agosach gyda CEWC-Cymru, ewch i weld yr adran ar aelodaeth. Neu efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhestr partneriaid.