Staff

Martin Pollard
Prif Weithredwr
martinpollard@wcia.org.uk

Mae Martin yn goruchwylio strategaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sy’n cynnwys CEWC-Cymru. Mae’n rheoli  ein haelodau eraill o staff a gweithgareddau beunyddiol y sefydliad. Mae’n gyfrifol am ddatblygu prosiectau a phartneriaethau newydd,  yn ogystal â chyflwyno gweithdai  yn y dosbarth a hyfforddiant i athrawon mewn dinasyddiaeth fyd-eang. Mae Martin yn gyn-athro Saesneg, yn Hyfforddwr Ymgynghorol i Dialogue Works ac yn cynrychioli Cymru ar Grŵp Strategaeth y Pum Gwlad ar Addysg Dinasyddiaeth a Gwerthoedd. Mae’n un o ymddiriedolwyr  Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn cynrychioli Cymorth Rhyngwladol, ac mae’n cadeirio panel grantiau Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica.

Dilynwch Martin ar Twitter: @Martin_Pollard
   

Naomi Blight
Cydlynydd Rhaglenni
naomiblight@wcia.org.uk

Ymunodd Naomi â CEWC-Cymru ym mis Ionawr 2010. Mae ganddi radd Baglor mewn Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd a Gradd Meistr mewn Affrica: Datblygiad Dynol a Chynaliadwy o Brifysgol Leeds. Cyn hyn bu'n gweithio gyda Gender Links,  Oxfam Cymru, a bu'n Gynorthwyydd Iaith Saesneg yng Nghanada. Mae Naomi'n gyfrifol am drefnu rhaglen graidd CEWC-Cymru o ddigwyddiadau i oedolion ac ysgolion yn ogystal â chydlynu rhaglenni gwirfoddoli WCIA.
 

 

Mark Charman
Swyddog Prosiect: Athroniaeth i Blant
markcharman@wcia.org.uk

Mae Mark Charman yn athro cymwys, profiadol sy’n arbenigo mewn Athroniaeth i Blant (P4C), dull o ddysgu ac addysg sy’n seiliedig ar ymholi lle mae’r disgyblion yn gwneud cynnydd trwy feddwl yn feirniadol ac yn greadigol gyda’i gilydd. Yn y gorffennol, mae Mark wedi cyflawni prosiectau mewn ysgolion ar draws y DU a thramor, gan gynrychioli sefydliadau sy’n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd,
Camden Learning and School Effectiveness, The Children’s Company a CITV.

Fel Swyddog Prosiect, mae Mark yn datblygu gwaith CEWC-Cymru i alluogi athrawon i ddefnyddio  P4C i gynyddu sgiliau eu disgyblion ar draws y cwricwlwm.

 


Sue Coles
Rheolwr Cyllid a Gweinyddiaeth
suecoles@wcia.org.uk

Daeth Sue i weithio i’r WCIA (y sefydliad sydd bellach yn cynnwys CEWC-Cymru) gyntaf ar gytundeb blwyddyn fel Swyddog Cynorthwyol Gwasanaethau Rhyngwladol i’r hyn a elwir bellach yn UNA Cyfnewid a chafodd gynnig swydd barhaol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Ar hyn o bryd, mae’n gyfrifol am reoli digwyddiadau a gynhelir yn y Deml Heddwch gan sefydliadau a chwmnïau allanol, gan gynnwys ffilmio, digwyddiadau dathliadol, cynadleddau ac arholiadau; ynghyd â dyletswyddau cyfrifyddu a gweinyddol.

 


Lora Winfield-Young
Swyddog Cefnogi
lorawinfield-young@wcia.org.uk

Ymunodd Lora â CEWC-Cymru ym mis Ebrill 2012. Mae ganddi radd Baglor mewn Dylunio Graffig o Brifysgol Fetropolitan Abertawe ac mae’n siarad Cymraeg. Mae’n wirfoddolwraig egnïol gydag amryw elusennau gan gynnwys GirlGuiding UK a Cymorth i Fenywod. Mae Lora yn gyfrifol am ystod eang o dasgau swyddfa, gan roi cymorth gyda phob un o raglenni gweithgareddau CEWC-Cymru.