a:2:{s:7:"content";s:3157:"

Staff

Martin Pollard - Swyddog Addysg

Graddiodd Martin o Brifysgol Caerdydd ym 1998, cyn hyfforddi i fod yn athro ysgol uwchradd. Treuliodd ddwy flynedd yn dysgu Saesneg mewn ysgol gyfun yng Nghasnewydd cyn ymuno ag adran ysgolion WCIA, CEWC-Cymru, ym mis Medi 2001. Mae hefyd yn datblygu ac yn rheoli gwaith prosiect addysgiadol, ac yn chwarae rhan amlwg yng ngwaith cynllunio strategol WCIA. Mae Martin yn hyfforddwr ymgynghorol i Dialogue Works ac ef yw prif gynrychiolydd Cymru ar grŵp strategaeth y Pum Gwlad ar addysg a gwerthoedd dinasyddiaeth.

E-bost: martinpollard@wcia.org.uk

 

Naomi Blight - Cyd-Lynydd Rhaglenni

Daeth Naomi atom ym mis Ionawr 2010. Mae ganddi radd Baglor mewn Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd a gradd Meistr o Brifysgol Leeds ar Affrica: Datblygiad Dynol a Chynaliadwy. Cyn hyn bu'n gweithio gydag Oxfam Cymru, Canolfan Bradford dros Ddatrys Gwrthdaro a bu'n athrawes Saesneg yng Nghanada. Mae Naomi'n gyfrifol am drefnu rhaglen graidd CEWC-Cymru o gynadleddau a chystadlaethau i fyfyrwyr. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn datblygiad rhyngwladol, gwleidyddiaeth, materion rhyw a newid i'r hinsawdd, ac mewn hybu materion rhyngwladol ar raddfa fyd-eang a lleol.

E-bost: naomiblight@wcia.org.uk

 

Angela Hill - Swyddog Prosiect: Athroniaeth i Blant

Daeth Angela atom ym mis Awst 2009. Ei swydd flaenorol oedd dysgu Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley ym Merthyr Tudful. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes, datblygodd Angela ymrwymiad cadarn dros helpu pobl ifanc i feddwl yn greadigol ac yn feirniadol ac i ddod yn ddinasyddion gweithredol, drwy ei gwaith yn y dosbarth a'i gwaith allgyrsiol gydag Eco-Ysgolion a Masnach Deg. Bydd Angela'n gyfrifol am ddatblygu gwaith CEWC-Cymru ymhellach i alluogi athrawon ym mhob rhan o Gymru i ddefnyddio Athroniaeth i Blant fel dull i wella sgiliau eu disgyblion ar draws y cwricwlwm.

 

E-bost: angelahill@wcia.org.uk

 

 

Andrew Gill - Cynorthwyydd Rhaglenni

Ymunodd Andrew â'r CEWC-Cymru ym mis Chwefror 2010 fel Cynorthwyydd Rhaglenni, yn darparu cefnogaeth weinyddol yn ogystal â chyfrannu at wefannau a fforymau rhwydweithio cymdeithasol WCIA. Mae gan Andrew radd hanes o Brifysgol  Plymouth ac mae ganddo gefndir proffesiynol mewn marchnata a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae teithio a chwaraeon ymhlith ei ddiddordebau.

E-bost: andrewgill@wcia.org.uk

 

";s:5:"theme";s:10:"Theme_Main";}

 

Martin Pollard

 

 

 

 

 

 

 Angela Hill

 

 

 Andrew Gill