a:1:{s:7:"content";s:1016:"

Sesiynau byrrach

Os carech brofi P4C cyn i chi brynu sesiwn hyfforddi llawn, beth am drefnu sesiwn blasu?

Gallwn ddarparu gweithdai 60-90 munud o hyd wedi’r ysgol, neu sesiynau hirach os oes gennych fore neu brynhawn cyfan yn rhydd.

Gall y sesiynau byrrach hyn gynnwys cyflwyniad cyffredinol i P4C ac/neu drafodaeth athronyddol go iawn, i hybu aelodau o’r staff eu hunain i feddwl am rai o’r cwestiynau mawr. Gwell fyth, gallwn ddarparu cyfres o weithdai cysylltiedig, gyda chydweithwyr yn rhoi prawf ar y gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth rhwng sesiynau.

Ond mae hi’n annhebygol y bydd sesiynau blasu yn unig yn cynnig digon o brofiad o P4C i chi ei ddefnyddio’n llawn wrth eich gwaith. Os ydych o ddifrif ynglÅ·n â datblygu arferion ystafell ddosbarth effeithiol, rydym yn argymell eich bod yn cymryd cwrs achrededig Lefel 1.

";}

 

Shorter sessions