Os ydych yn awyddus i sbarduno eich disgyblion i feddwl mewn ffordd greadigol a beirniadol, yna dyma’r cwrs i chi. Bydd y cwrs deuddydd hwn yn cynnig cyflwyniad llawn i’r dull addysgu Athroniaeth i Blant (P4C).
Achredir ein hyfforddwr gan SAPERE, sy’n hyrwyddo P4C ledled y DU. Wedi i chi gwblhau’r cwrs Lefel 1 mae modd i chi symud ymlaen at Lefelau 2 a 3: gweler www.sapere.org.uk/courses/index.aspx am fanylion.
Yn ogystal â chynorthwyo wrth ddysgu meysydd pwnc, gall P4C gyfoethogi ABCh, ADCDF a gofynion Sgiliau Meddwl cwricwlwm cenedlaethol 2008.
Anogir trafodaeth agored a chydweithio trwy gydol y cwrs, sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:
Y gost at gyfer y cwrs dibreswyl hwn fydd £250 y pen (£200 ar gyfer ail athro neu fwy o’r un ysgol). Mae hyn yn cynnwys:
Gall ysgolion unigol fanteisio ar becyn cyflwyno arbennig, ar gost unwaith ac am byth o £1,150.
Mae hyn yn cynnwys:
» Fflurflen gofrestru (PDF, 661Kb)
"Diolch, CEWC-Cymru, am eich help, cefnogaeth ac adnoddau wrth i ni redeg ein rhaglen Athroniaeth i Blant (P4C). Bu’r diwrnodau hyfforddiant yn gymysgedd penigamp o strategaeth, gweithgareddau ymarferol, ac amser i feddwl am sut all P4C gael ei ddatblygu ar gyfer yr holl ysgol. Yr oedd y cyfle i ymarfer y 10 cam o’r ymchwiliad yn fuddiol iawn, gan iddo roi hyder a brwdfrydedd i’r athrawon i weithredu’r rhaglen yn ôl yn eu hysgolion."
Rhian Kenny, Cyngor Sir Caerfyrddin
Edrychwych ar beth mae athrawon wedi'i ddweud am ein cyrsiau P4C Lefel 1 diweddar.