Athroniaeth i Blant: Hyfforddiant i athrawon

Gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi o unrhyw hyd ym maes P4C/sgiliau meddwl, ac i unrhyw ysgol yng Nghymru. (Byddwn hefyd yn ystyried comisiynau y tu allan i Gymru - cysylltwch â ni i drafod hyn os gwelwch yn dda.)

Mae ein cleientiaid blaenorol yn cynnwys ESIS,  Partneriaeth Addysg-Busnes Canol Morgannwg, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Bwrdeistref Torfaen, Gyrfa Cymru Gorllewin a sawl ysgol unigol.

Gallwn deilwrio cyrsiau at eich anghenion chi, ond dyma ein hopsiynau hyfforddi safonol:

Martin Pollard, ein Swyddog Addysg, sy’n arwain pob cwrs. Mae Martin yn athro cymwysedig ac wedi ei achredu i ddarparu cyrsiau Lefel 1. Mae hefyd yn ymgynghorydd ar gyfer Dialogue Works ac mae wedi cwblhau cwrs ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’ gyda Cyfanfyd.

Os hoffech chi i ni ddarparu sesiwn hyfforddi yn eich ysgol chi, rydym yn awgrymu i chi ddod yn Aelod Gyswllt o CEWC-Cymru er mwyn cael y prisiau isaf:

Math o hyfforddiant

Y gost ar gyfer ysgol/coleg sy’n Aelod Cyswllt

Y gost ar gyfer rhai nad ydynt yn aelodau / clwstwr ffurfiol o ysgolion

Pob sesiwn hyfforddi ar wahân i gyrsiau Lefel 1 Diwrnod llawn £420
neu
£85 / awr

£500 diwrnod llawn neu £100 / awr

Ar gyfer corff / AALl sydd heb fod yn gysylltiedig â  CEWC-Cymru:

£600 diwrnod llawn neu  £120 / awr

Cwrs Lefel 1
yn P4C (2 ddiwrnod) – gan gynnwys tystysgrifau a 2 lawlyfr cwrs

£1,040

Ar gyfer cyrsiau ‘gwahoddiad cyffredinol’:

£250/yr athro (£200 ar gyfer ail athro a phob athro arall o’r un ysgol) – gan gynnwys llawlyfrau/tystysgrifau

£1,200

Ar gyfer cyrsiau ‘gwahoddiad cyffredinol’:

£250/yr athro (£200 ar gyfer ail athro a phob athro arall o’r un ysgol) – gan gynnwys
llawlyfrau/tystysgrifau

Pecyn Cyflwyno Lefel 1
– ar gyfer 1 ysgol yn unig
£1,150
Ddim yn berthnasol


Nodwch os gwelwch yn dda:

  • Darperir y cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg.
  • Mae’n bosibl y codir treuliau teithio/llety yn ogystal â’r ffioedd uchod.