Cyflwyno P4C

Dull ystafell ddosbarth yw Athroniaeth i Blant (P4C) sydd yn helpu i wella sgiliau meddwl beirniadol disgyblion a’u gallu i gydweithio. Mae’n annog awyrgylch lle ceir trafodaeth agored, greadigol ymhlith disgyblion o bob oed, a nodwyd ei lwyddiant mewn nifer fawr o adroddiadau arolwg ar ysgolion ac astudiaethau academaidd.

Dyfeisiwyd P4C yn wreiddiol gan yr Athro Matthew Lipman yn yr Unol Daleithiau fel rhaglen ar gyfer plant a phobl ifainc rhwng 6 ac 16 oed. Mae crynodeb hylaw o’i hanes a’i werth i’w gweld yn: www.sapere.org.uk/content/index.aspx?id=46.

Bellach defnyddir P4C ar sawl ffurf trwy’r byd i gyd. Yn y DU, mae’n debyg mai SAPERE yw’r corff mwyaf adnabyddus sy’n hyrwyddo’r dull. Mae’n cydlynu rhaglen hyfforddi broffesiynol ar dair lefel er mwyn cynnal safonau uchel.

Achredir ein hyfforddwr, Martin Pollard, gan SAPERE i ddarparu cyrsiau Lefel 1. Mae ei ymagwedd at y gwaith yn cyfuno P4C gyda gofynion y cwricwlwm yng Nghymru megis Sgiliau Meddwl, ABCh ac ADCDF.