Llwybrau Athroniaeth i Blant
Ffeil ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim yma
Llwybrau P4C
Fersiwn 2.0
Y Ffeil PDF Ryngweithiol 50 tudalen
----------------------------------------------------------------------------------
Yr Adnodd rhad ac am ddim i ddechreuwyr ac ymarferwyr profiadol mewn Athroniaeth i Blant
----------------------------------------------------------------------------------
“Rwy’n meddwl ei fod yn hollol wych – mae cymaint ynddo – cefndir, dull, adnoddau, gwerthusiad – popeth y byddai angen i athro neu athrawes gyfeirio ato!”
- Athro, Pen-y-bont ar Ogwr
e-Fwletin Athroniaeth i Blant
Yn cael ei e-bostio am ddim yn wythnosol
Y Bwletin Athroniaeth i Blant Wythnosol
Yn syml, e-bostiwch y gair ‘bwletin’
i
markcharman@wcia.org.uk
----------------------------------------------------------------------------------
Y bwletin sgiliau meddwl wythnosol, yn ystod y tymor i addysgwyr
----------------------------------------------------------------------------------
» Fflurflen gofrestru (PDF, 661Kb)
Athroniaeth i Blant
Mae CEWC-Cymru yn credu bod y gallu i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol yn rhan anhepgor o fod yn ddinesydd byd-eang cyfrifol.
Er 2004, rydym wedi bod yn hyrwyddo’r dull ystafell ddosbarth Athroniaeth i Blant (P4C) i helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau o’r fath.
Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau i ysgolion yn y maes hwn:
"Rhaglen wych, sydd yn cefnogi addysgu ABCh ac ADCDF ar gyfer bod oedran. Mae hefyd yn help i ddatblygu sgiliau meddwl a chyfathrebu'r sawl sydd yn cael eu dysgu, yn ogystal â’r ddawn allweddol fwy eang o weithio gydag eraill."
Rhian Kenny, Cyngor Sir Caerfyrddin
Dechreuodd CEWC-Cymru archwilio’r cysylltiadau rhwng P4C ac addysg ym maes dinasyddiaeth yn 2004, gan weithio gyda phedair ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent ar gyfer prosiect a noddwyd gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Ers hynny, rydym wedi hyfforddi cannoedd o athrawon i arwain trafodaeth athronyddol yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio P4C ar y cyd ag ABCh, ADCDF a’r maes Sgiliau Meddwl newydd ar y cwricwlwm yng Nghymru.
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.