Hyfforddiant


Mae pob un o’n cyrsiau hyfforddi CEWC-Cymru’n cynnwys trafodaeth ar ddamcaniaeth addysgol a datblygu cwricwlwm, ond eu prif ffocws yw darparu syniadau ymarferol ar gyfer y dosbarth.

Rydym yn cynnig hyfforddiant mewn swydd dibynadwy yn y meysydd canlynol:

ABCh a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Cyrsiau sy’n darparu golwg cyffredinol i gydweithwyr yn archwilio’r dimensiynau byd-eang o fewn addysg.

Meddwl Beirniadol ac Athroniaeth i Blant
Mae’n cyrsiau undydd yn ystyried y cysylltiadau rhwng datblygu sgiliau meddwl beirniadol, ABCh ac addysg dinasyddiaeth fyd-eang. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau deuddydd ardystiedig ar Athroniaeth i Blant.

Cynghorau Ysgol a Chyfranogiad Democrataidd
Mae’r cyrsiau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyfranogiad effeithiol. Os ydych am ddatblygu potensial eich cyngor ysgol, rydym yn cynnig hyfforddiant ar y cyd i ddisgyblion ac athrawon.

Dadlau yn y Dosbarth
Gellir defnyddio cyrsiau sy’n ystyried sut y gellir defnyddio dadlau fel offeryn ymarferol yn y dosbarth i wella sgiliau cyfathrebu, gwaith grŵp a meddwl cliriach. Mae rhai cyrsiau’n cael eu cyflwyno mewn cydweithrediad â Ffederasiwn Dadlau Cymru.

Gweithio’n Agos gyda Myfyrwyr sydd dan Anfantais
Syniadau i gynnwys myfyrwyr mewn ysgolion arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion a lleoliadau eraill lle mae addysg dinasyddiaeth yn her arbennig.

Dylech nodi er bod rhai o’r deunyddiau cwrs yn ddwyieithog, mae’r hyfforddiant ei hun yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg.