Mae’r Cenhedloedd Unedig (CU) yn fudiad rhyngwladol gyda 192 o wledydd yn perthyn iddo. Mae’r cynadleddau hyn yn efelychu gwaith y Cenhedloedd Unedig ac yn eich helpu i drafod materion pwysig fel tlodi, newid yn yr hinsawdd ac addysg. Cânt eu cynnal mewn Siambrau Cyngor lleol a’u gosod er mwyn edrych mor debyg i’r gwreiddiol â phosibl.
Mae myfyrwyr yn gweithio mewn timoedd o 3, ac mae croeso iddyn nhw siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg. I’r rhai nad ydynt yn deall Cymraeg, mae clustffonau ar gael iddynt wrando ar y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd! Rydym hefyd yn trefnu digwyddiad uniaith Gymraeg mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cymod.
Os hoffech chi gymryd rhan, ewch i edrych ar ein rhestr o ddigwyddiadau’r dyfodol. Wedyn gofynnwch i athro gysylltu â ni er mwyn cael ffurflen gofrestru. Gallwch ofyn i gael cynrychioli gwlad benodol, ond dylech gadw mewn cof fod rhai gwledydd – fel y DU, Tsiena, yr Unol Daleithiau a Brazil – yn ddewisiadau poblogaidd iawn!
Bydd yr oriel luniau isod yn rhoi gwell syniad i chi o sut mae’r digwyddiad yn gweithio.
Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.