Mae’n cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig yn cynnig ffordd ryngweithiol, llawn hwyl i fyfyrwyr ddysgu am fudiad rhyngwladol hanfodol: y Cenhedloedd Unedig.
Rydym yn trefnu 6 digwyddiad Model y Cenhedloedd Unedig dwyieithog (Cymraeg-Saesneg) bob blwyddyn.
» Bwriwch olwg ar ein horiel fideo newydd!
» Digwyddiadau'r dyfodol
Sut mae’n gweithio
Mae disgyblion yn gweithio mewn grwpiau o 3 fel dirprwyaethau i’r CU. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn chwarae rôl aelod wladwriaeth o’r CU, ond mae rhannau hefyd i wledydd sy’n arsylwi, sefydliadau anllywodraethol, y wasg ryngwladol ac Ysgrifenyddiaeth y CU.
Mae CEWC-Cymru yn gosod testun ar gyfer y gynhadledd, ac yn darparu gwybodaeth gefndir a chanllawiau mewn sesiwn friffio 3 i 4 wythnos cyn y gynhadledd. Bydd y disgyblion wedyn yn gwneud ymchwil manwl i’w gwlad neu eu sefydliad, gan ddyfeisiau datganiadau safbwynt a syniadau ar gyfer cytundebau rhyngwladol.
Nod y gynhadledd ei hun – a gynhelir fel arfer yn siambr cyngor un o’r llywodraethau lleol – yw bod cynrychiolwyr yn dod i gytundeb ar benderfyniad rhyngwladol ar y mater sy’n cael ei drafod, tra’n chwarae rhan eu gwledydd mor ddilys â phosibl.
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.
Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn