Fyddech chi’n hoffi bod yn gyfrifol am Gymru am ddiwrnod? Dewch i weld sut brofiad fyddai hynny yn ein Model Cynulliad Cenedlaethol Cymru!
Cynhelir y digwyddiad yn Adeilad Crickhowell ym Mae Caerdydd – lle’r oedd y Cynulliad Cenedlaethol go iawn yn arfer dadlau.
Pan fyddwch chi’n cyrraedd, byddwn yn rhoi rhan i chi fel Aelod Cynulliad (AC), gwas sifil neu Weinidog. Byddwch wedyn yn gweithio gyda llunwyr polisi go iawn i weithio ar ddatganiad ar fater fel polisi cyffuriau, Masnach Deg neu TG mewn ysgolion. Yn y prynhawn, mae pawb yn eistedd gyda’i gilydd ac yn dadlau ar y datganiadau. Byddwch wedyn yn pleidleisio i’w dderbyn neu i’w wrthod.
Mae’r digwyddiad hwn yn eich galluogi i weithio gyda myfyrwyr o ysgolion eraill ac i ymarfer siarad a gwrando mewn ffordd sy’n hwyl! Does dim rhaid i chi fod yn gwneud gwleidyddiaeth yn yr ysgol i gymryd rhan, does dim angen i chi wneud unrhyw waith paratoi arbennig - dim ond dod a bod yn barod i drafod materion pwysig sy’n wynebu Cymru heddiw. Fodd bynnag, os ydych am baratoi yn fwy drylwyr, cymerwch olwg ar y cysylltiadau isod.
Mae’r Model Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel arfer yn cael ei gynnal ym mis Ebrill neu fis Mai – edrychwch ar ein rhestr o ddigwyddiadau’r dyfodol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, gofynnwch i athro gysylltu â ni.
Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.