I brintio’r gweithgaredd hwn, aroleuwch yr holl tecst ac yna dewiswch Ffeil > Print > Dewis

Enw’r Sesiwn

Gweithgaredd 4: Gwahanol Bobl yn fy Nghymuned

Modiwl

Pobl a'u Cymunedau

Amcanion

Bydd disgyblion:

  • Yn archwilio amrywiaeth eu cymuned leol


Amcanion ABCh

Bydd y disgyblion:

  • Yn gwybod am agweddau ar eu treftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru gan gynnwys y dimensiwn amlddiwylliannol.
  • Yn deall bod gan bobl wahanol gredoau sy’n llywio’r ffordd y maent yn byw.
  • Yn gwerthfawrogi a dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth diwylliannol.

Adnoddau

  • Papur a phinnau ysgrifennu
  • Dewisol: Copïau o fapiau o’r ardal, sticeri

Ffeil(-iau) Taflenni Gwaith

Ffeil(-iau) Bwrdd Gwyn

Cynllun yr Ystafell

  • Y disgyblion wrth eu desgiau

Amser

1 awr fan leiaf

Gweithgaredd

  • Bob yn bâr, gofynnwch i’r disgyblion i sôn wrth ei gilydd am eu taith i’r ysgol a’r gwahanol dirnodau neu dirluniau y byddant yn mynd heibio iddynt.
  • Gofynnwch i’r dosbarth cyfan i nodi rhai o’r tirnodau – eglwysi, ysgolion eraill, bwytai, mannau chwarae ayb – a gwneud rhestr ddosbarth.
  • Gofynnwch i’r disgyblion i dynnu llun eu taith i’r ysgol ar ffurf map ac i nodi nodweddion allweddol.
    Neu: dosbarthwch fapiau a gofynnwch i’r disgyblion i dynnu llun eu taith i’r ysgol gan nodi neu liwio y tirnodau allweddol.

» Byddai modd gwneud hyn mewn grwpiau gyda map mawr o’r gymuned a sticeri. «

  • Gall y disgyblion gyflwyno eu mapiau i weddill y dosbarth, a gall y mapiau fod yn rhan o arddangosiad.

 

Trafodaeth Dosbarth

  • Oes yna unrhyw beth sy’n eich synnu ar y mapiau?
  • A yw pawb yn defnyddio’r un tirnodau?
  • Pam bod rhai tirnodau yn fwy amlwg nag eraill?
  • Beth mae rhai o’r tirnodau yn ei ddweud wrthym am y gymuned leol, ei hanes a’r bobl sy’n byw yno?

Ble Nesaf:

CEWC-Cymru
  • Gweithgaredd ymestyn: trefnwch y tirnodau yn rhai ‘cadarnhaol’ a ‘negyddol’ a gofynnwch i’r dosbarth i gynnig syniadau i gyngor yr ysgol ynghylch gwella’r amgylchedd lleol.
  • Cynhadledd Un Byd: Digwyddiad blynyddol CEWC-Cymru ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ar amlddiwylliannaeth. Cynhelir hwn mewn sir wahanol bob blwyddyn.

 

Mudiadau Eraill