Hyfforddiant


Mae CEWC-Cymru’n darparu tri math o gwrs hyfforddi yn y maes hwn:

(a) Cwrs lefel 1 mewn Athroniaeth i Blant (2 ddiwrnod). Mae’r pecyn hwn yn darparu arweiniad manwl ar ddefnyddio’r dull P4C a sesiynau ymarfer lle rydym yn annog pawb sy’n cymryd rhan i athronyddu. Mae’n baratoad delfrydol i athrawon sydd am drawsnewid eu dosbarthiadau’n ‘gymunedau ymchwilgar’. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u hardystio gan SAPERE, y corff cydlynu ar gyfer P4C yn y DU.

(b) Cwrs cyflwyno (1 diwrnod). Mae hwn yn cyflwyno’r dull P4C a’i gysylltiadau â sgiliau meddwl, ABCh ac addysg ddinasyddiaeth.

(c) Sesiynau blasu (1 awr neu ragor). Wedi’u cynllunio ar gyfer athrawon sy’n dechrau ystyried datblygu sgiliau meddwl.

Pris:  (a) neu (b) £400 y dydd (un ysgol sy’n aelod o CEWC-Cymru) / £500 y dydd (ysgolion nad ydynt yn aelodau a chlystyrau o ysgolion).
(c) £80 yr awr (un ysgol sy’n aelod o CEWC-Cymru) / £100 yr awr (ysgolion nad ydynt yn aelodau a chlystyrau o ysgolion).

I aelodau, gallwn hefyd ymweld â’ch ysgol yn rhad ac am ddim i ddarparu arddangosiad yn y dosbarth.


Lawrlwythwch nawr:

» 
Rhaglen enghreifftiol o gwrs hyfforddi diweddar (PDF, 27Kb - Saesneg yn unig)
»  Ffurflen gofrestru ar gyfer hyfforddiant neu adnoddau (PDF, 252Kb)