a:1:{s:7:"content";s:3862:"

Aelodaeth Gyswllt - manylion llawn

 

Ymweliadau ag ysgolion a gweithdai ar bynciau byd-eang – yn rhad ac am ddim

Mae hawl gan bob ysgol/coleg sy’n aelod ar un ymweliad o hyd at 90 munud am ddim ym mhob blwyddyn o Aelodaeth Gyswllt. Codir £25 am bob 30 munud am oriau ychwanegol ac ymweliadau dilynol (ysgolion/colegau nad ydynt yn aelodau: nid oes ymweliadau am ddim ar gael).


Sesiynau ‘blasu’ yn rhad ac am ddim ar feddwl yn feirniadol, cyfranogaeth ddemocrataidd a gwaith prosiect arall gan CEWC-Cymru

Yn hytrach na gweithdy ar bwnc penodol, gallwn hefyd gynnig sesiwn am ddim gan ddefnyddio Athroniaeth i Blant neu ddulliau eraill a ddatblygwyd yn ystod prosiectau CEWC-Cymru. Nodwch os gwelwch yn dda y codir tâl os bydd mwy nag un athro yn arsylwi ar y sesiwn (gweler isod).


Gostyngiad ar gyfer sesiynau hyfforddiant mewn swydd

Bydd aelodau yn derbyn hyfforddiant ar gost o £85 yr awr (£100 i rai nad ydynt yn aelodau) neu £420 y dydd (£500 i rai nad ydynt yn aelodau). Codir tâl o £55 yr awr am wersi enghreifftiol yr arsylwir arnynt gan gydweithwyr (£70 i rai nad ydynt yn aelodau) neu £260 y dydd (£325 i rai nad ydynt yn aelodau).


Gostyngiad wrth gymryd rhan yn ein cynadleddau a’n digwyddiadau

Er enghraifft, byddem yn codi £30 arnoch am ddod â 9 disgybl i gynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig (£50 i rai nad ydynt yn aelodau); y gost am gymryd rhan yn ein Dyddiau Hyfforddi ar Ddadlau yw £10 y pen i bob disgybl (£15 i rai nad ydynt yn aelodau).


Gostyngiad ar gyhoeddiadau CEWC-Cymru

Er enghraifft, cost ein pecyn Dinasyddion sy’n Meddwl  yw £6 i aelodau (£8 i rai nad ydynt yn aelodau).


Cyngor, gwybodaeth ac adnoddau ar ddinasyddiaeth fyd-eang - yn rhad ac am ddim

Lle fo’n bosibl, byddwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor anffurfiol ar feysydd addysgol perthnasol. (Nid yw hyn yn cynnwys sgyrsiau mewn cyfarfodydd staff, sy’n cyfrif fel hyfforddiant mewn swydd.) Mae gennym hefyd lyfrgell fawr o adnoddau sy’n ymdrin ag amryw destunau byd-eang, gan gynnwys hawliau dynol, gwrthdaro, materion amgylcheddol ac amrywiaeth ethnig/crefyddol. Rydym yn hapus i roi benthyg y rhain yn rhad ac am ddim i aelodau (neu, gyda rhai adnoddau hÅ·n, i’w rhoi i ffwrdd).


Cylchlythyrau a blaenoriaeth i dderbyn gwybodaeth drwy’r post am ddigwyddiadau, cystadlaethau a gweithgareddau eraill CEWC-Cymru

Gan fod gennym enw cyswllt athro penodol gallwn sicrhau bod gwybodaeth gan CEWC-Cymru yn cyrraedd y person cywir yn brydlon.


Enghraifft o Aelodaeth Gyswllt ar waith:
Dychmygwch eich bod yn gofyn inni ddarparu gweithdy 2 awr o hyd yn eich ysgol chi, ac yna’n cymryd rhan mewn cynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Cyfanswm y gost i chi fydd £25, lle byddai ysgol nad oedd yn aelod o CEWC-Cymru yn talu £115. Hyd yn oed os byddwch yn talu’r gyfradd aelodaeth uchaf (£60), byddwch yn arbed arian ac yn derbyn holl fanteision eraill bod yn aelod cyswllt.

";}