Elusen fechan, ond prysur iawn, yw CEWC-Cymru sy’n helpu ysgolion a cholegau gydag ABCh, dinasyddiaeth fyd-eang a chyfranogiad pobl ifanc. (Council for Education in World Citizenship yw ystyr CEWC - y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang).
Rydym yn trefnu digwyddiadau, cystadlaethau, prosiectau a gweithdai dosbarth ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar weddill y wefan.
Martin Pollard yw Swyddog Addysg CEWC-Cymru. Mae’n gyfrifol am drefnu holl ddigwyddiadau CEWC-Cymru ac fe drefnodd Bencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd pan ddaeth i Gaerdydd ym mis Gorffennaf 2006. Fe hyfforddodd yn athro Saesneg yn y sector uwchradd a bu’n gweithio gyda ni ers 2001.
Rydym wedi’n lleoli yn y Deml Heddwch yng nghanol Caerdydd, ond rydym yn gweithio gyda phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru.
Gallwch naill ai gysylltu â Martin yn uniongyrchol, neu gofynnwch i’ch athro wneud hynny, ar martinpollard@wcia.org.uk. Neu edrychwch ar ein manylion cyswllt eraill.