Model y Cenhedloedd Unedig
Mae’r Cenhedloedd Unedig (CU) yn fudiad rhyngwladol gyda 192 o wledydd yn perthyn iddo. Mae’r cynadleddau hyn yn efelychu gwaith y Cenhedloedd Unedig ac yn eich helpu i drafod materion pwysig fel tlodi, newid yn yr hinsawdd ac addysg. Cânt eu cynnal mewn Siambrau Cyngor lleol a’u gosod er mwyn edrych mor debyg i’r gwreiddiol â phosibl.
Mae myfyrwyr yn gweithio mewn timoedd o 3, ac mae croeso iddyn nhw siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg. I’r rhai nad ydynt yn deall Cymraeg, mae clustffonau ar gael iddynt wrando ar y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd! Rydym hefyd yn trefnu digwyddiad uniaith Gymraeg mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cymod.
Cymryd rhan
Os hoffech chi gymryd rhan, ewch i edrych ar ein rhestr o ddigwyddiadau’r dyfodol. Wedyn gofynnwch i athro gysylltu â ni er mwyn cael ffurflen gofrestru. Gallwch ofyn i gael cynrychioli gwlad benodol, ond dylech gadw mewn cof fod rhai gwledydd – fel y DU, Tsiena, yr Unol Daleithiau a Brazil – yn ddewisiadau poblogaidd iawn!
Bydd yr oriel luniau isod yn rhoi gwell syniad i chi o sut mae’r digwyddiad yn gweithio.
Model y Cenhedloedd Unedig
Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn
Cysylltiadau
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.
Cysylltiadau:
-
Cyberschoolbus
Gwybodaeth am faterion byd-eang a'r Cenhedloedd Unedig, wedi'i ddylunio ar gyfer pobl ifanc. -
Cymdeithas Model y Cenhedloedd Unedig Aberystwyth
Os ewch i Brifysgol Aberystwyth, gallwch gymryd rhan mewn llawer rhagor o ddigwyddiadau Model y Cenhedloedd Unedig. -
Cynadleddau eraill Model y Cenhedloedd Unedig
Rhestr y CU ei hun o ddigwyddiadau a chlybiau Model y CU ym mhedwar ban byd. -
Hawliau dynol
Popeth y mae angen i chi ei wybod am y Cenhedloedd Unedig a'i swyddogaeth o amddiffyn hawliau dynol. -
Newyddion y BBC
Argymhellwn hwn am wybodaeth ar ddigwyddiadau byd-eang cyfredol. -
OneWorld
Cronfa ddata fawr iawn a defnyddiol o erthyglau am faterion byd-eang, y gellir chwilio fesul gwlad neu fesul pwnc. -
UNICEF
Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig: gwybodaeth am hawliau plant. -
United Nations System
Cyfeirlyfr swyddogol sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig: defnyddiol os ydych am ddod o hyd i'r adran gywir o'r Cenhedloedd Unedig yn gyflym. -
Ymgyrch y Mileniwm
Gwefan hawdd ei defnyddio am Nodau Datblygiad y Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.