Gall CEWC-Cymru ddarparu hyfforddiant mewn unrhyw ysgol gynradd, ysgol uwchradd neu goleg yng Nghymru – yn ogystal ag i awdurdodau addysg leol, gwasanaethau ymgynghorol a chlystyrau ysgolion.
Mae ein hyfforddiant yn canolbwyntio ar feysydd megis ABCh, ADCDF, sgiliau meddwl a chyfathrebu, a meithrin cyfranogaeth ddemocrataidd. Pan eu trosglwyddir yn effeithiol, mae pob un o’r rhain yn gallu chwarae rôl bwysig i ddatblygu pobl ifanc yn ddinasyddion gweithredol o Gymru ac o’r byd.
Gall y cyrsiau fod rhwng awr a 2 ddiwrnod o hyd, gan ddibynnu ar eich gofynion, ac erbyn hyn rydym yn cynnig dau ddewis i chi wrth gynllunio eich cwrs:
Opsiwn A: Llunio eich Cwrs eich Hun
Mae’r opsiwn hwn yn eich galluogi i ddewis yr elfennau hyfforddi sy’n fwyaf priodol i’ch grŵp staff chi.
Opsiwn B: Cyrsiau Parod
Cyrsiau yw’r rhain mewn meysydd arbenigedd penodol i CEWC-Cymru ac sy’n cael eu cynnig mewn fformat safonol. Fodd bynnag, mae’n bosib mireinio rhaglenni i gwrdd â gofynion y cleient.
Ysgol/coleg sy’n Aelod Cysywllt o CEWC-Cymru:
£420 am ddiwrnod ysgol llawn neu £85 yr awr
Cwrs P4C Lefel 1: £1,040 am 2 ddiwrnod
Ysgolion nad ydynt yn aelodau, AALlau ac eraill:
£500 am ddiwrnod ysgol llawn neu £100 yr awr
Cwrs P4C Lefel 1: £1,200 am 2 ddiwrnod
Mae cyfraddau is ar gael ar gyfer cyrsiau ar y cyd i fyfyrwyr ac athrawon. Mae’n rhaid talu costau teithio ym mhob achos.
» Lawrlwythwch ein tabl llawn o ffioedd (Word, 37Kb)
";}