Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i bob fyfyriwr yng Nghymru. Mae gan bob ysgol uwchradd/coleg hawl i anfon un tîm o 2 siaradwr.
» Ffurflen gofrestru - PDF (107Kb)
» Ffurflen gofrestru - Publisher (256Kb)
Cynhelir y rowndiau rhanbarthol rhwng y 28 Medi a 17 Hydref (gweler isod), gydag un tîm buddugol yn cael ei ddewis o bob rhanbarth.
Caiff testunau ar gyfer y dadleuon, a gynhelir yn Saesneg, eu hanfon at y cystadleuwyr ym mis Medi, ynghyd â chopi o’n Llawlyfr Dadlau. Os ydych yn newydd i’r gystadleuaeth, peidiwch â phoeni! Rydym hefyd yn trefnu Diwrnodau Hyfforddiant Dadlau i helpu myfyrwyr i ddeall y gofynion.
Bydd pob dadl yn Saesneg. Cynhelir rownd gogynderfynol a rownd gynderfynol y pencampwriaethau yn gynnar ym mis Tachwedd a’r Rownd Derfynol ar 25 Tachwedd. Bydd y buddugwyr yn cynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth Ddadlau Ryngwladol i Ysgolion a drefnir gan yr English-Speaking Union ym mis Mai 2012!
Yn amodol ar gyllido mae gan yr holl gystadleuwyr gyfle i gael eu dewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd 2012 yn Cape Town, yr De Affrica. (I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ddadleuwyr fod dan 19 ar 17 Ionawr 2012).
Sir Gaeryfyrddin, Ceredigion & Sir Penfro
28 Medi 2011
Ysgol Dyffryn Taf, Hendy-gwyn
Abertawe & Castell-nedd Port Talbot
30 Medi 2011
Ysgol Gyfun Ystalyfera
Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg & Pen-y-bont ar Ogwr
3 Hydref 2011
Ysgol Gyfun Y Pant
Caerdydd, Merthyr Tudful & Caerffili
5 Hydref 2011
Ysgol Howell, Caerdydd /
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
6 Hydref 2011
Rownd Derfynol Ranbarthol
Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent & Sir Fynwy
10 Hydref 2011
Ysgol Gyfun Caerleon, Casnewydd
Sir Ddinbych, Sir y Fflint & Wrecsam
12 Hydref 2011
Ysgol Uwchradd Dinbych
Gwynedd, Conwy & Ynys Môn
13 Hydref 2011
Ysgol Friars, Bangor
Powys
17 Hydref 2011
Ysgol Uwchradd Aberhonddu
» Ffurflen gofrestru - PDF (107Kb) / Publisher (256Kb)