Gweithdai a chyflwyniadau i fyfyrwyr
Gall CEWC-Cymru gyflwyno gweithdai ystafell ddosbarth mewn unrhyw ysgol gynradd, ysgol uwchradd neu goleg yng Nghymru.
Mae ein hymweliadau yn gallu cryfhau gwaith eich ysgol yn y meysydd canlynol:
- ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang)
- ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol)
- Bagloriaeth Cymru (Cymru, Ewrop a’r Byd)
- Cyfranogiad myfyrwyr / y cyngor ysgol
- ‘Diwrnod ymgyfoethogi’ ar thema
- Gweithgaredd allgyrsiol
- Maes pwnc/manyleb arholiad yn cynnwys Daearyddiaeth, Saesneg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a Datblygiad y Byd
I gofrestru am gwrs neu i ofyn am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni neu lawrlwythwch ein taflen Gweithdai a Chyflwyniadau (PDF, 317Kb).
> I bob oed
Mae’n gwasanaethau ar gael i ddisgyblion o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 13.
> O ddosbarthiadau bach i grwpiau blwyddyn llawn
- Gallwn weithio gyda grwp o unrhyw faint – yr unig gyfyngiad yw’r graddau o ddysgu gweithredol sy’n bosibl.
- Yn gyffredinol, gallwn ddarparu gweithdai cwbl ryngweithiol i ddosbarthiadau o hyd at 40 myfyriwr.
- 90 yw’r mwyaf all ddod i’n sesiynau Model y Cenhedloedd Unedig, ond nid oes terfyn ar gyfer cyflwyniadau llai rhyngweithiol.
- Pam na drefnwch chi ein bod yn darparu cyfres o weithdai llai ar eich cyfer dros ddiwrnod cyfan neu hanner diwrnod?
> Trafod unrhyw bwnc byd-eang neu fater dinasyddiaeth
Mae gennym brofiad helaeth o gyflwyno gweithdai a chyflwyniadau ar y pynciau a restrir isod. Fodd bynnag, gallwn gwrdd ag unr geisiadau eraill cyn belled â bod ein staff yn cael digon o amser i baratoi.
(Noder y gallwn godi cyfradd uwch os yw ymwelia
lefel uchel iawn o waith paratoi gan ein staff.)
Gweithdai neu gyflwyniadau ar bynciau:
- Hawliau dynol / Hawliau plant
- Gwaith y Cenhedloedd Unedig
- Datblygiad cynaliadwy
- Cyfranogiad democrataidd
- Dinasyddiaeth fyd-eang (yn gyffredinol)
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Pwnc arall o’ch dewis chi
Gweithdy sgiliau:
Sesiwn Model o’r Cenhedloedd Unedig (oed 14+):
Mae cynadleddau Model o’r Cenhedloedd Unedig yn rhan arferol o raglen digwyddiadau CEWC-Cymru. Bellach rydym yn cynnig y gweithgaredd hwn ar gyfer ysgolion a cholegau unigol.
Dewiswch bwnc:
- Newid yn yr hinsawdd
- Diarfogi niwclear
- Dwr glân i bawb
- Pwnc arall
Dewiswch un o’r canlynol:
- Sesiwn Model o’r Cenhedloedd Unedig o unrhyw hyd (90 munud i ddiwrnod llawn), gyda’r myfyrwyr wedi paratoi gwaith
- Sesiwn fer (hyd at hanner diwrnod) heb unrhyw waith wedi’i baratoi