Cynhadledd Un Byd
Ar hyn o bryd, y Gynhadledd Un Byd yw’n unig ddigwyddiad blynyddol ar gyfer ysgolion cynradd. Mae’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth disgyblion iau o amrywiaeth ethnig a chrefyddol, ac i annog parch tuag at ddiwylliannau eraill.
Yn y bore, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn dau weithdy sy’n cael eu trefnu gan wahanol fudiadau, un ohonynt gyda ffocws celfyddydau creadigol fel arfer. Yn y prynhawn, defnyddir gweithgareddau drama i archwilio materion amrywiaeth ymhellach.
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal mewn ardal wahanol bob blwyddyn, ac yn cael ei chefnogi gan Mr H A Khatib er cof am ei dad, Dr Abdul Qadir Khatib.
Os oes gennych ddiddordeb mewn addysgu am amrywiaeth yn y dosbarth, mae adnoddau ar gael drwy Dinasyddiaeth Heddiw, ein system aelodaeth ar-lein.
Cynhadledd Un Byd
Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn