a:1:{s:7:"content";s:1420:"

Enw da am gyflwyno hyfforddiant llwyddiannus

Rydym wedi darparu hyfforddiant mewn swydd o ansawdd da am naw mlynedd, gan helpu athrawon i ddatblygu sgiliau, gwerthoedd a dealltwriaeth myfyrwyr o faterion dinasyddiaeth.

Gellir teilwra’r cyrsiau i gwrdd ag anghenion cydweithwyr, ac rydym yn hapus i drefnu cyfarfodydd cyn cyrsiau neu sesiynau blasu pan fo hynny’n briodol.

As well as individual schools, mae’n cleientiaid yn cynnwys ESIS, Partneriaeth Addysg Busnes Morgannwg GanolGyrfa CymruPrifysgol Glyndŵr, Coleg Prifysgol y Drindod, a AALlau yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Powys.

Gofynnir i athrawon sy’n cymryd rhan yn ein sesiynau hyfforddi i werthuso’u profiad bob amser. Their feedback has been overwhelmingly positive, and a selection of quotes from satisfied customers is provided on this page.

 

";}

“Diolch yn fawr, CEWC-Cymru, am eich cymorth, eich cefnogaeth a’ch adnoddau yn rhedeg y rhaglen. Roedd y dyddiau hyfforddi’n gymysgedd rhagorol o strategaeth, gweithgareddau ymarferol ac amser i fyfyrio ar sut y gellir datblygu Athroniaeth i Blant drwy’r ysgol gyfan… Fe roddodd i athrawon yr hyder a’r brwdfrydedd i gyflwyno’r rhaglen yn eu hysgolion eu hunain.”
Rhian Kenny, Cyngor Sir Caerfyrddin

“Bydd y diwrnod cyfan yn fanteisiol iawn i gynllunio ABCh o fewn yr ysgol.”
Athro mewn ysgol gynradd ym Mhowys

“Diwrnod ffantastig! HMS sydd wedi fy ngadael yn ysu i fod yn ôl yn y dosbarth er mwyn rhoi popeth a ddysgais ar waith.”
Athro mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd

“Mae’r cwrs wedi bod yn gymorth enfawr i osod yr agenda Sgiliau Meddwl mewn rhyw fath o gyd-destun ac yn amlwg dyma’r ffordd ymlaen i ddatblygu dinas-yddion cyflawn.”
Athro mewn ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf