Cyrsiau yw’r rhain mewn meysydd arbenigedd penodol i CEWC-Cymru ac sy’n cael eu cynnig mewn fformat safonol. Fodd bynnag, mae’n bosib mireinio rhaglenni i gwrdd â gofynion y cleient.
I gofrestru am gwrs neu i ofyn am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni neu lawrlwythwch ein taflen Datblygiad Proffesiynol (PDF, 521Kb).
Mae Athroniaeth i Blant (P4C) yn ddull sy’n helpu i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a chreadigol pobl ifanc. Gallwn eich hyfforddi i arwain ymholiadau disgyblion i foeseg, cyfiawnder, y natur ddynol a phynciau athronyddol eraill.
Am fanylion pellach ar y cyrsiau canlynol, ewch i’r adran arbennig ar Athroniaeth i Blant. Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant penodedig sydd yn cysylltu gyda nifer o amcanion ysgol, gofyniadau pwnc, a meysydd eraill (er enghraifft ADCDF). Cysylltwch ag Angela Hill am fwy o wybodaeth.
Cwrs dau ddiwrnod sy’n rhoi cyflwyniad llawn i P4C. Gellir teilwra’r cwrs i fod yn addas ar gyfer athrawon cynradd neu uwchradd. Bydd y rhai dan hyfforddiant yn derbyn tystysgrif a llawlyfr gan SAPERE, y corff sy’n hyrwyddo P4C ar draws y DU.
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar y cysylltiadau rhwng Sgiliau Meddwl (yn cynnwys P4C) a chyflwyno addysg ar ddinasyddiaeth fyd-eang.
Mae modd cyflwyno sesiynau cyflwyno P4C o unrhyw hyd – yn cynnwys gwersi arddangos gyda myfyrwyr – ar ôl oriau ysgol neu law yn llaw â gwasanaethau ymgynghorol.
Cyrsiau i’ch helpu i ddatblygu hunanhyder myfyrwyr, gwaith tîm a mynegi gwahanol safbwyntiau ganddynt.
Gallwn hyfforddi athrawon i:
Cyrsiau hyfforddi i helpu’ch myfyrwyr i ddeall democratiaeth, cael gwrandawiad i’w barn yn y cyngor ysgol, a dod yn ddinasyddion byd-eang yn eu cymunedau.
Gellir cyflwyno hwn naill ai i athrawon neu i grwpiau o athrawon a myfyrwyr gyda’i gilydd.