Digwyddiad cystadleuol yw EYP, ond does dim bwriad i arddull y ddadl fod yn ymosodol; yr amcan yw hybu’r rhai sy’n cymryd rhan i fynegi barn tra’n parchu barn pobl eraill.
Mae ymdrech tîm yn hollbwysig, gyda’r beirniaid yn edrych am ymresymu sy’n datblygu yn ystod y ddadl ac sy’n seiliedig ar wybodaeth gadarn a gyflwynir gyda steil a hiwmor.
Mae pob tîm o 6 myfyriwr yn cymryd rôl un o bwyllgorau Senedd Ewrop. Rhoddir un pwnc i’r pwyllgor i’w amddiffyn neu i’w wrthwynebu; ym mhob achos disgwylir iddyn nhw draddodi araith agoriadol o 3 munud ac ar ôl cyfnod o ddadlau, lle y caiff pob un gyfle i siarad, gofynnir iddyn nhw grynhoi. Mae’r pynciau’n cael eu darparu cyn y gystadleuaeth, ar ffurf penderfyniad parod sy’n awgrymu camau penodol fydd yn cael eu cymryd gan y Senedd: gweler ein penderfyniad enghreifftiol (PDF, 58Kb - yn Saesneg) o sesiwn flaenorol.
Ar ddiwrnod y gystadleuaeth, bydd y beirniaid yn ystyried nid yn unig sgiliau perswadio unigol y myfyrwyr, ond hefyd sut y mae aelodau’r tîm yn gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn eu syniadau. Mae’n bwysig felly bod pawb ar y tîm yn bachu ar y cyfle i siarad.