Mae CEWC-Cymru wedi bod yn trefnu cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig ers dros 40 mlynedd. Mae dros 500 o fyfyrwyr yn cymryd rhan bob blwyddyn, gyda nifer o ysgolion yn dod n ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Yng ngeiriau un athro:
“Dim ond neges fer i ddiolch i chi am drefnu’r digwyddiad heddiw. Llwyddodd i danio brwdfrydedd ein disgyblion trwy gydol y dydd - roedden nhw wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr iawn. Mae pob un ohonynt yn awyddus i gymryd rhan y flwyddyn nesaf. Roedden nhw hefyd wedi gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn ddiolchgar i CEWC-Cymru am gynnig y cyfle hwn i ni. Llawer o ddiolch unwaith eto. Rwy’n siŵr y dawn ni yn ôl y flwyddyn nesaf!”
Rydym yn casglu adborth gan fyfyrwyr ym mhob digwyddiad, gan ein galluogi i ddiweddaru a mireinio’r digwyddiadau’n rheolaidd. Dyma grynodeb o beth o’r adborth a dderbyniwyd yn 2006:
Cytuno'n gryf | Cytuno | Ddim yn siŵr | Anghytuno | Anghytuno'n gryf | |
| Roedd ansawdd deunyddiau briffio CEWC-Cymru yn dda. | 23% | 66% | 8% | 2% | 1% |
| Roedd y gynhadledd yn bleserus. | 46% | 49% | 4% | 1% | 0% |
| Roedd yn rhwydd i chwarae rhan yn y gynhadledd. | 31% | 51% | 14% | 4% | 0% |
| Roedd e’n rhwydd i ddilyn beth oedd yn digwydd yn y gynhadledd. | 26% | 57% | 14% | 3% | 0% |
| Bu’r gynhadledd yn help i'm gwaith ysgol neu goleg. | 20% | 46% | 22% | 8% | 4% |
| Cyfraddau cyffredinol | 29% | 54% | 12% | 4% | 1% |