Ymysg y pynciau sydd wedi cael eu trafod mewn cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig yn y gorffennol mae:
Dyma enghraifft o benderfyniad gafodd ei gytuno’r llynedd, ar bwnc Nodau Datblygiad y Mileniwm:
Mae’r Model Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig hwn yn:
1. Annog y 22 gwlad a addawodd yn wreiddiol 0.7% o’u hincwm cenedlaethol gros ar gyfer datblygiad rhyngwladol i gwrdd â’r nod hwnnw erbyn 2009;
2. Galw am ddileu rheolau masnach annheg, ac i wledydd sy’n gosod tollau uchel ar fasnachu i leihau’r rheiny i’r hanner;
3. Gofyn i wledydd datblygedig ddarparu cymorth rhyngwladol gwerth y swm y mae WaterAid yn barnu fydd ei angen i sicrhau bod nod 7 yn ôl ar y llwybr cywir;
4. Gofyn yn ychwanegol i’r gwledydd hynny i gyfrannu cyfanswm o $15 biliwn i fynd i’r afael ag AIDS drwy gyfrwng triniaeth â chyffuriau ac addysg, fel elfen y mae’r cyllid wedi’i warantu o’r targed 0.7% y cytunwyd arno ym mhwynt 1;
5. Galw ar wledydd y Gorllewin i wneud y canlynol wrth geisio cwrdd â nod 7:
(a) Cyllido cynlluniau ecogyfeillgar i amddiffyn yr amgylchedd;
(b) Lleihau’r allyriadau nwy tŷ; gwydr a phrynu tanwydd ecogyfeillgar o wledydd llai datblygedig yn economaidd (yn enwedig yn Affrica);
(c) Lleihau eu galw am gynnyrch anaddas o’r fforestydd glaw a darparu dewisiadau masnach deg i wledydd.6. Cynnig fod pob gwlad yn helpu mewn unrhyw ffordd bosibl (naill ai’n ariannol neu’n foesol) i ryddhau gwledydd rhag dyled eithafol erbyn 2015.