a:1:{s:7:"content";s:2258:"

Model Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  

Mae’n digwyddiad blynyddol o Fodel Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnwys dadl ar faterion cyfoes Cymreig, mewn ffordd sy’n efelychu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol go iawn.


Rhennir y diwrnod yn ddwy ran fel arfer:

Sesiynau pwyllgor (y bore)
Mae’r myfyrwyr yn cael eu rhannu’n 4 pwyllgor, pob un ohonynt yn ystyried pwnc gwahanol. Mae pob myfyriwr naill ai’n chwarae rôl Aelod Cynulliad (AC), gwas sifil neu Weinidog. Gan weithio gydag AC neu was sifil iawn, mae ganddynt amser penodol i ddod i gytundeb ar y pwnc sy’n cael ei drafod. Bydd y gweision sifil wedyn yn helpu’r Gweinidog i ddrafftio araith ar sail y cytundeb hwn, tra bod ACau’n cynnull yn grwpiau fesul plaid wleidyddol.

Sesiwn lawn (y prynhawn)
Daw’r myfyrwyr i gyd at ei gilydd yn hen Siambr y Cynulliad a chaiff y 4 pwnc eu dadlau yn eu tro. Mae araith y Gweinidog yn arwain at ddadl agored ar y pwnc, ac wedyn bydd pawb yn pleidleisio ar dderbyn argymhellion y Gweinidog neu beidio.

Cefnogi Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang

Yn wreiddiol, datblygodd CEWC-Cymru ddeunyddiau i gefnogi digwyddiadau Model y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, a chynhaliodd y gynhadledd gyntaf o’i bath i nodi etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Ers 2003, rydym wedi trefnu cynhadledd undydd flynyddol yn adeilad TÅ· Hywel y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Mae’n ardal aelodau’n cynnwys canllawiau ar drefnu digwyddiadau Model y Cynulliad Cenedlaethol yn eich ysgol eich hun.

";}

Model National Assembly

Cysylltiadau

Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.

Cysylltiadau:

  • Cymru ar y We
    Y Porth i Gymru Gyfan - yn eich helpu i ddod o hyd i wefannau sy'n ymwneud phob agwedd ar Gymru ac ar faterion Cymreig.
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    Dewch i weld beth mae'r Cynulliad go iawn wedi bod yn ei wneud!
  • Draig Ffynci
    Gwefan cyfranogi ieuenctid - dewch i ddadlau ar faterion Cymreig arlein cyn y digwyddiad ei hun.
  • icWales
    Newyddion gan y Western Mail a'r South Wales Echo.
  • Sefydliad Materion Cymreig
    Mae'r wefan yn cynnwys ymchwil a datganiadau i'r wasg am faterion Cymreig.

Model Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn