Am wybodaeth am hyfforddiant ar ddadlau i athrawon, ewch i’n hadran benodol ar Datblygiad Proffesiynol.
Mae CEWC-Cymru’n cynnig dau fath o hyfforddiant ar ddadlau i fyfyrwyr:
Rydym yn trefnu dau ddigwyddiad undydd ym mis Medi, cyn rowndiau rhanbarthol Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru. Cânt eu noddi gan Fanc Julian Hodge, ac maent yn cynnwys yr elfennau canlynol:
Gallwn ymweld â’ch ysgol a gweithio gyda myfyrwyr yn eich dosbarth. Ar gyfer gweithdai sydd yn hollol rhyngweithiol (a argymhellir), 35 yw uchafswm maint y grŵp. Ar gyfer sgyrsiau cyffredinol ar ddadlau, nid oes uchafswm.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu am ddim ar gyfer ysgolion/colegau sydd yn Aelodau Cyswllt am y 90 munud cyntaf (£25 am bob 30 munud o hynny ymlaen).
Ysgolion/colegau nad ydynt yn aelodau: nid oes ymweliadau am ddim ar gael; £25 am bob 30 munud.
Treuliau'n daladwy ym mhob achos.
";}