Yn ogystal â’n rhaglen graidd o weithgareddau i fyfyrwyr a hyfforddiant i athrawon, mae CEWC-Cymru’n trefnu prosiectau byrrach yn canolbwyntio ar feysydd penodol o addysg dinasyddiaeth. Mae’r rhain yn arwain at ddatblygu arbenigedd o fewn ein sefydliad, ac at adnoddau i athrawon a disgyblion.
Ein prif brosiect ar hyn o bryd yw Cymru Gallach, prosiect 3-blynedd i archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio Athroniaeth i Blant mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru.
Mae prosiectau eraill pwysig yn y gorffennol wedi cynnwys:
Rydym yn barod bob amser i dderbyn awgrymiadau am bartneriaethau prosiect newydd, cyn belled â’u bod yn cyd-fynd â’n hamcanion. Cysylltwch â ni os hoffech chi drafod cyfleodd o’r fath.