Cefnogi ADCDF


Gall llawer o weithgareddau CEWC-Cymru helpu ysgolion i gyflwyno Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang (ADCDF).

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o sut y mae’n gwaith yn cefnogi’r targedau yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru Dealltwriaeth Gyffredin ar gyfer ADCDF yng Nghymru.

Ar waelod y dudalen hon mae cysylltiadau at wefannau eraill allai fod yn ddefnyddiol i chi yn y maes hwn.

 

Digwyddiadau a gweithgareddau i fyfyrwyr

 

Cysylltiadau at Ddealltwriaeth Gyffredin

     
Cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig Cyfnod Allweddol 4              

SGILIAU – Cydweithio ag eraill:
Addasu i sefyllfaoedd cyfnewidiol; gwerthuso gwybodaeth a chyngor gan eraill

SGILIAU - Meddwl:
Rhoi ystyriaeth feirniadol i faterion sy’n effeithio ar y dyfodol

  Ôl-16     Cyfoeth a Thlodi:
Deall pam mae angen cydraddoldeb a chyfiawnder
Dadlau Cyfnod Allweddol 3 SGILIAU - Cyfathrebu:
Mynegi barn a’i chyfiawnhau mewn trafodaethau a dadleuon 
  Cyfnod Allweddol 4 SGILIAU – Cydweithio ag eraill:
Bod yn gadarn a chydnabod barn eraill yr un pryd
  Ôl-16 SGILIAU - Meddwl:
Werthuso gwybodaeth a syniadau croes i’w gilydd yn feirniadol er mwyn gallu dehongli tueddiadau, dibynadwyedd a dilysrwydd 
Inclusion: Sgiliau Allweddol/animeiddio Cyfnod Allweddol 4

Dewisiadau a Phenderfyniadau:
Gwerthfawrogi’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â hawliau pobl

SGILIAU - Cyfathrebu:
Mynegi teimladau personol yn glir ac yn briodol

 

Cynghorau ysgol / cyfranogi democrataidd  Cyfnod Allweddol 2 SGILIAU – Cydweithio ag eraill:
Cydweithio a chydweithredu i ddatrys problemau 
  Cyfnod Allweddol 4 SGILIAU – Cydweithio ag eraill:
Ystyried y broses o gyfranogi
Athroniaeth i Blant Cyfnod Allweddol 2  SGILIAU - Meddwl:
Nodi, disgrifio a dechrau egluro patrymau a chydberthnasau
  Cyfnod Allweddol 4 SGILIAU - Meddwl:
Ofyn cwestiynau sy’n annog atebion a chyfres o gwestiynau 
Model Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfnod Allweddol 4 SGILIAU - Meddwl:
Rhoi ystyriaeth feirniadol i faterion sy’n effeithio ar y dyfodol 
  Ôl-16 Dewisiadau a Phenderfyniadau:
Dangos ymgysylltiad gweithredol yn y gymuned
Senedd Ieuenctid Ewropeaidd Ôl-16 SGILIAU - Cyfathrebu:
Gwerthuso dadleuon llafar ac ysgrifenedig yn feirniadol
Dewisiadau a Phenderfyniadau:
Deall natur gydberthynol systemau gwleidyddol-gymdeithasol a systemau economaidd 
Cynhadledd Un Byd  Cyfnod Allweddol 2 Hunaniaeth a Diwylliant:
Gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn ddinasyddion mewn byd sy’n llawn o gydgysylltiadau; deall gwerthoedd diwylliannol/chredoau crefyddol 
     
Ymweliadau / gweithdai ysgolion ar thema:    
Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol Cyfnod Allweddol 4 Dewisiadau a Phenderfyniadau:
Ymddiddori yn y ffordd y mae materion byd-eang a materion cyfoes yn effeithio arnynt hwy 
Hawliau dynol a hawliau plant Cyfnod Allweddol 2 Cyfoeth a Thlodi:
Deall bod gan bobl yr hawl i ddisgwyl bod eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu
Tlodi a Nodau Datblygiad y Mileniwm Cyfnod Allweddol 3 Cyfoeth a Thlodi:
Feithrin ymdeimlad o degwch a chyfiawnder o ran defnyddio adnoddau a chyfoeth 
Datblygiad cynaliadwy Cyfnod Allweddol 4

Cyfoeth a Thlodi:
Tensiynau rhwng twf economaidd, datblygu cynaliadwy ac anghenion dynol sylfaenol 

Defnydd a Gwastraff:
Deall sut i leihau’r effaith amgylcheddol

Y Cenhedloedd Unedig a chydberthynas y gwledydd Ôl-16 SGILIAU – Cydweithio ag eraill:
Hyrwyddo syniad drwy safiad neu safbwynt
Yr Undeb Ewropeaidd Ôl-16 Dewisiadau a Phenderfyniadau:
Bod angen cydweithio rhyngwladol 
Ffoaduriaid a cheiswyr lloches Cyfnod Allweddol 2 Hunaniaeth a Diwylliant:
Deall effaith negyddol gwahaniaethu a rhagfarn 

 

Cysylltiadau

Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.

Cysylltiadau:

  • ActionAid Schools
    Adnoddau gan y rhwydwaith ymgyrchu gwrth-dlodi.
  • Addysg Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
    Gwefan ddwyieithog yn rhestru sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer y rhan hon o'r cwricwlwm.
  • Africa Trust Networks
    Corff sy'n galluogi gwirfoddolwyr rhyngwladol i weithio gyda phobl ifainc difreintiedig yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.
  • CAFOD
    Adnoddau addysgiadol gan yr Asiantaeth Gatholig dros Ddatblygu Tramor.
  • Canolfan Addysg Byd
    Sefydliad wedi'i leol ym Mangor sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru.
  • Cool Planet (Oxfam)
    Adnoddau ar faterion byd-eang i athrawon ac i fyfyrwyr.
  • Cyfanfyd
    Sefydliad ambarel ar gyfer addysg dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru.
  • Cyswllt Ysgolion
    Gwefan sy'n helpu plant 7-11 oed i ddysgu am fywydau plant mewn gwledydd eraill.
  • Cysylltiadau Byd-eang
    Canolfan adnoddau a hyfforddi wedi'i lleoli yn Sir Benfro.
  • Dyddiau ac wythnosau rhyngwladol
    Cyfle i ganoli sylw disgyblion/myfyrwyr trwy gyfrwng dyddiau i goffáu gwahanol bynciau, fel Diwrnod Rhyngwladol Rhyddid y Wasg (3 Mai) a Diwrnod Rhyngwladol AIDS (1 Rhagfyr).
  • Fforwm ADCDF De-ddwyrain Cymru
    Fforwm i ysgolion ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
  • GLADE
    Y Ganolfan dros Addysg Fyd-eang a Datblygu, sydd â'i phrif swyddfa yng Ngwlad yr Haf yn Lloegr.
  • Global Dimension
    Arweiniad at adnoddau addysgu byd-eang i bob oed ac mewn nifer o feysydd pwnc.
  • Global Gang (Cymorth Cristnogol)
    Gemau, newyddion a gwybodaeth i helpu disgyblion i ddysgu am fywydau plant mewn gwledydd eraill.
  • Global Student Forum
    Mae'n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ledled y DU i drafod materion yn ymwneud â dinasyddiaeth byd.
  • Junior 8 Summit
    Cynulliad o bobl ifainc sy'n dilyn uwchgynhadledd G8 arweinyddion byd.
  • Makutano Junction Project
    Prosiect sy'n codi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion datblygu, yn seiliedig ar opera sebon o Cenia.
  • Mapping Our World
    Adnoddau bwrdd gwyn rhyngweithiol gan Oxfam, wedi eu hanelu at ddisgyblion 8-14 oed.
  • OneWorld UK
    Gwybodaeth fanwl am hawliau dynol a datblygu cynaliadwy, gan gynnwys canllawiau i wahanol bynciau ac i wahanol wledydd.
  • PEDEC
    Sefydliad wedi'i leoli ym Mhowys sy'n cefnogi addysg dinasyddiaeth fyd-eang.
  • Plan-Ed
    Adnoddau addysgu gan y sefydliad datblygu plentyn-ganolog.
  • Reading International Solidarity Centre
    Adnoddau dysgu ar fasnach, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyfrifoldeb corfforaethol a rhagor.
  • Send My Friend to School
    Cyfle i'ch ysgol ddod yn rhan o'r ymgyrch fyd-eang dros Addysg, Global Campaign for Education.
  • Tide Global Learning
    Rhwydwaith o athrawon ac addysgwyr sy'n ymddiddori yn yr agwedd fyd-eang ar addysg.
  • togetherTV
    Storïau fideo gan bobl yn y byd sy'n datblygu, yn eu geiriau eu hunain.
  • UNICEF Teacherzone
    Yn cynnwys gwybodaeth am Wobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau ac adnoddau yn canolbwyntio ar hawliau plant.
  • Wythnos Un Byd
    Cyfle blynyddol i ddisgyblion ffocysu ar faterion amrywiaeth a chyfiawnder.