Ein gwaith gydag athrawon

  

Er bod llawer o’n gweithgareddau’n golygu ein bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc, rydym hefyd yn ymroddedig i ddarparu adnoddau a hyfforddiant i athrawon fydd yn eu galluogi i gyflwyno addysg o ansawdd da ar ddinasyddiaeth fyd-eang.

Mae’r dulliau dysgu ac addysgu a ddisgrifir yn yr adran hon wedi cael eu datblygu dros nifer o flynyddoedd mewn dosbarthiadau ledled Cymru. Yn ogystal â gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd, gallwn gynnig cefnogaeth i gydweithwyr sy’n gweithio gyda myfyrwyr sydd ag anghenion addysgol neu ymddygiadol arbennig.

I gael gwybodaeth am ein digwyddiadau i fyfyrwyr, ewch i’r adran ar ein gwaith gyda myfyrwyr.

Os ydych chi’n newydd i’r maes addysg hwn, efallai y bydd ein rhestr o dermau allweddol yn ddefnyddiol i chi.



Teachers