Beth yw fy hawliau?
Er mwyn dysgu mwy am eich hawliau, gallwch lawrlwytho ein Crynodeb o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (pdf, 155Kb), neu gallwch wahodd rhywun o CEWC-Cymru i gynnal gweithdy yn eich ysgol neu’ch grŵp ieuenctid.
In the World
Os ydych chi o dan 18 oed, rydych wedi eich gwarchod gan gytundeb rhyngwladol o’r enw Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn.
Mae hwn yn cynnwys 54 datganiad am sut y dylai plant gael eu trin. Maen nhw’n delio â phob agwedd o fywydau plant, o wneud yn siŵr fod ganddyn nhw enwau i’w hamddiffyn yn erbyn camdriniaeth. Dylai’r ffordd y cewch eich trin gan bobl broffesiynol fel athrawon, plismyn, gweithwyr cymdeithasol a meddygon fod yn seiliedig ar y Confensiwn.
Yng Nghymru
Yng Nghymru, dylai plant fedru gael at eu hawliau i gyd. Mae o leiaf ddau sefydliad wedi cael eu sefydlu i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd:
· Comisiynydd Plant Cymru – yn helpu plant i ddeall eu hawliau ac yn amddiffyn y rhai sy’n methu cael at eu hawliau i gyd.
· Draig Ffynci – yn adrodd am farn bobl ifanc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ganddo Brif Gyngor ag 80 o aelodau, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o fforymau ieuenctid lleol, cynghorau ysgol a grwpiau diddordeb arbennig.