Dinasyddiaeth Heddiw

Croeso i Ddinasyddiaeth Heddiw, system aelodaeth ar-lein CEWC-Cymru.

Mae'r adran yma yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol ac esiamplau o weithgareddau yn unig.
Clicicwh yma am yr adran aelodau.

Cyflwyniad

Mae Dinasyddiaeth Heddiw’n darparu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu dinasyddiaeth, yn cyflenwi ABCh, Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) a meysydd eraill o fewn y cwricwlwm.

Byddwn yn ychwanegu rhagor o ddeunyddiau wrth i’n prosiectau a’n gweithgareddau ddatblygu, felly dewch yn ôl yn rheolaidd. Rydym hefyd yn hapus i ystyried cynnwys syniadau ein cydweithwyr: os oes gennych chi unrhyw wersi sy’n ysbrydoli yr hoffech eu rhannu, anfonwch nhw fel dogfennau Word at cewc@wcia.org.uk.

Mae’r rhan fwyaf o’n gweithgareddau wedi eu rhannu’n 8 modiwl gwaith, fel a ganlyn:


Cyfnodau Allweddol 1 & 2

Cyfnodau Allweddol 3 & 4

1. Pobl a’u Cymunedau

2. Ein Hawliau

3. Pobl Wahanol

4. Dweud ein Dweud

1. Hawliau a Chyfrifoldebau

2. Amrywiaeth

3. Democratiaeth

4. Cyfranogi Gweithredol

Mae modd cyflwyno modiwl fel cyfres o wersi yn ystod tymor, neu gellir defnyddio cynlluniau gwersi unigol ar eu pennau eu hunain. I ysgolion sydd â gwersi ABCh byrrach, mae pob modiwl hefyd yn darparu 3 neu 4 o weithgareddau byrrach sy’n cymryd tua 20 munud. Mae’r rhain yn trafod yr un prif themâu a’r gweithgareddau hwy.

Mae pob gweithgaredd wedi’i gysylltu â’r Fframwaith ABCh ar gyfer Cymru, gyda’r meysydd sy’n cael eu trafod wedi eu nodi’n glir ar y cynllun gwers. Mae cynlluniau gwersi hefyd yn cynnwys cysylltiadau â gwaith arall CEWC-Cymru, yn ogystal â gwefannau allanol all fod yn gymorth ar gyfer paratoi gwersi neu ar gyfer gweithgareddau ymestyn.

Mae’r gwersi ar gael ar y sgrin ac fel ffeiliau Word a PDF i’w lawrlwytho er mwyn eu hargraffu’n hawdd. Lle mae angen taflenni gwaith neu daflenni gwybodaeth, mae’n hawdd mynd at y rhain o’r cynllun gwers.