Digwyddiadau i fyfyrwyr

  

Mae CEWC-Cymru’n trefnu nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn i gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn materion lleol a byd-eang.

Mae’r holl ddigwyddiadau’n canolbwyntio ar ‘ddysgu drwy wneud’. Yn hytrach na chael darlithoedd ar y Cenhedloedd Unedig, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd Ewrop, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymarferiadau chwarae rôl estynedig sy’n eu helpu i ddatblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, meddwl beirniadol ac ymchwil. Mae CEWC-Cymru’n gwneud y trefniadau a gosod y fframwaith ar gyfer pob digwyddiad, ond y myfyrwyr eu hunain sy’n gwneud y gwaith diddorol!

Ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd mae’r rhan fwyaf o’n digwyddiadau, ond rydym hefyd yn trefnu Cynhadledd Un Byd ar gyfer ysgolion cynradd, ac rydym bob amser yn agored i awgrymiadau ysgolion ar gyfer digwyddiadau newydd.


»  Digwyddiadau'r dyfodol

 

CEWC-Cymru event