Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru
Mae’n pencampwriaeth flynyddol, sy’n cael ei noddi gan Fanc Julian Hodge, yn digwydd bob Hydref a Thachwedd ac mae’n agored i bob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru. Mae dros 50 o dimoedd yn cymryd rhan bob blwyddyn.
» Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru 2008, Ffurflen Gofrestru (105KB)
Mae’r cofrestru ar gyfer y Pencampwriaethau’n cychwyn ym mis Mehefin. Anfonir y pynciau ar gyfer y dadleuon, sy’n cael eu cynnal yn Saesneg, at y cystadleuwyr ym mis Mehefin, ynghyd â chopi o’n Llawlyfr Dadlau.
Rhennir camau cyntaf y gystadleuaeth yn 8 rownd ranbarthol, gyda’r rowndiau gogynderfynol a chynderfynol cenedlaethol yn cael eu cynnal yng Ngregynog, Powys, a’r rownd derfynol yn y Deml Heddwch, Caerdydd. Ewch i edrych ar ganlyniadau cystadleuaeth y llynedd.
Os ydych chi’n newydd i’r gystadleuaeth, peidiwch â phoeni! Rydym hefyd yn trefnu Dyddiau Hyfforddi ar Ddadlau i helpu myfyrwyr ddeall beth sydd ei angen.
Cysylltiadau
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.
Cysylltiadau:
-
British Debate
Gwybodaeth ddefnyddiol gan yr English-Speaking Union. -
Debatabase
Yn rhestru dadleuon dros/yn erbyn llawer o bynciau dadlau - defnyddiol, ond bydd cystadleuwyr eraill yn ei ddarllen hefyd! -
Ffederasiwn Dadlau Cymru
Yn cynnwys adnoddau defnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer dadleuon. -
International Debate Education Association (IDEA)
Corff sy'n hyrwyddo dadlau ffurfiol, ledled y byd. -
Newyddion y BBC
Mae angen ffeithiau a ffigurau ar eich araith - fe ddewch o hyd i straeon newyddion diweddar fan hyn! -
Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd
Dewch i gael ysbrydoliaeth drwy ddarllen am Bencampwriaethau'r Byd - efallai mai chi fydd yn cynrychioli Cymru'r flwyddyn nesaf!
Tagiau
Dadlau
Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn