Hyfforddiant

  

Am wybodaeth am hyfforddiant ar ddadlau i athrawon, ewch i’n hadran benodol ar Hyfforddiant.

Mae CEWC-Cymru’n cynnig dau fath o hyfforddiant ar ddadlau i fyfyrwyr:


Dyddiau Hyfforddi ar Ddadlau

Rydym yn trefnu dau ddigwyddiad undydd ym mis Medi, cyn rowndiau rhanbarthol Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru. Cânt eu noddi gan Fanc Julian Hodge, ac maent yn cynnwys yr elfennau canlynol:

    • Dadl enghreifftiol gyda sesiwn holi ac ateb
    • Gweithdai ar Arddull, Cynnwys a Strategaeth (y tri chategori asesu ym Mhencampwriaethau Cymru)
    • Arweiniad ar baratoi’n effeithiol ar gyfer dadleuon
    • Dadleuon ymarfer byr gydag adborth gan ddadleuwyr profiadol


Gweithdai dadlau

Gallwn ymweld â’ch ysgol a gweithio gyda myfyrwyr yn eich dosbarth. Ar gyfer gweithdai rhyngweithiol (a argymhellir), 35 yw uchafswm maint y grŵp. Ar gyfer sgyrsiau cyffredinol ar ddadlau, nid oes uchafswm. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu am ddim ar gyfer yr ysgolion sy’n aelodau; codir tâl o £40 yr awr ar ysgolion nad ydynt yn aelodau.

Training