Cynnwys pawb - prosiect "Inclusion"
Mae CEWC-Cymru yn ymroddedig i gefnogi cyfranogiad pobl ifanc yn y gwaith o wneud penderfyniadau, beth bynnag yw eu cefndir. Rydym felly wedi datblygu adnoddau i adeiladu sgiliau pobl ifanc dan anfantais gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Unedau Cyfeirio Disgyblion a’r sector Troseddau Ieuenctid er mwyn datblygu eu Sgiliau Allweddol (Gweithio gydag Eraill, TGCh, Cyfathrebu) a’u gwybodaeth am themâu dinasyddiaeth.
Mae cynllun gwaith arloesol wedi esblygu o’r prosiect hwn. Mae hwn yn cychwyn gyda 4 gweithgaredd dosbarth yn seiliedig ar ddeunyddiau ysgogi fideo a phrintiedig. Mae’r gweithgareddau’n trafod themâu empathi, hawliau plant, cyfranogiad a datrys problemau’n effeithiol.
Mae’r cynllun gwaith yn diweddu gyda phrosiect animeiddio. Mae pobl ifanc yn defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau y maen nhw wedi’u datblygu yn ystod y sesiynau blaenorol i greu diwedd i stori gan ddefnyddio clai a gwegamera’n unig! Gweler ein horiel fideo isod, sy’n arddangos gwaith pobl ifanc sydd eisoes wedi cwblhau’r prosiect.
Os hoffech chi gynnal y prosiect hwn, edrychwch ar yr adrannau hyfforddi ac adnoddau ar y wefan.