Cynghorau ysgol


Ym mis Tachwedd 2006 daeth hi’n orfodol i bob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghymru sefydlu cyngor ysgol, ddylai gwrdd o leiaf 6 gwaith y flwyddyn.

Roedd CEWC-Cymru’n rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y mesur hwn, ac rydym wedi cyfrannu i’w wefan, Cynghorau Ysgol Cymru. Rydym hefyd wedi treulio blynyddoedd lawer yn datblygu hyfforddiant ac adnoddau all eich helpu i sefydlu a chynnal cyngor ysgol effeithiol.

Mae cynghorau ysgol yn gam pwysig i alluogi plant i gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, hawl gafodd ei osod i lawr yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Credwn y dylai pob disgybl feddu ar y sgiliau i rannu eu barn ac i gydweithio gydag eraill, gan alluogi cynghorau ysgol i gynrychioli barn y myfyrwyr sydd wedi eu dadrithio fwyaf hyd yn oed.

Mae’n adnoddau Inclusion a Sgiliau ar gyfer Democratiaeth yn cynnig dulliau sy’n gymorth mawr i gyflawni hyn.

Cefnogi Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang

School Council