Mae CEWC-Cymru yn gwneud yn siŵr fod Cymru’n cael ei chynrychioli ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd bob blwyddyn. Mae’r gystadleuaeth fyd-eang hon yn cynnwys dros 30 o dimoedd cenedlaethol ac mae’n cael ei chynnal mewn gwahanol wlad bob blwyddyn.
Mae Tîm Cymru yn cynnwys 5 o ddadleuwyr, wedi eu dewis o gystadleuwyr ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru.
Mae gan fyfyrwyr ddau lwybr posib er mwyn cynrychioli Cymru ynu:
Mae’r tîm wedyn yn cael cyfnod o hyfforddiant dwys cyn teithio i Bencampwriaethau’r Byd, ym mis Chwefror neu fis Gorffennaf fel arfer.
Mae CEWC-Cymru wedi mynd â thîm o Gymru i Bencampwriaethau’r Byd bob blwyddyn ers 1991, ac mae wedi cyrraedd y rowndiau gogynderfynol ddwywaith. Ein rhiant-gorff, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, oedd yn gyfrifol am gynnal y gystadleuaeth ym 1995 a 2006.
Am ragor o wybodaeth am Bencampwriaethau’r Byd, ewch i www.schoolsdebate.com. Efallai yr hoffech weld ein rhestr o ddadleuwyr Tîm Cymru dros y blynyddoedd hefyd.
";}Tîm Cymru 2007: Aled Richards-Jones, Ellen Robertson, Mustafa Saeed, David Gregory, Beth Greaves