Sgiliau meddwl beirniadol
Mae CEWC-Cymru’n darparu arweiniad ac adnoddau yn trafod y cysylltiadau rhwng meddwl beirniadol, ABCh ac ADCDF.
Rydym yn argymell yn arbennig hyfforddiant yn y dull Athroniaeth i Blant (P4C), y gall ein Swyddog Addysg ei ddarparu. Mae P4C yn rhoi cyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau athronyddol ‘dyfnach’ a’u trafod yn agored yn y dosbarth. Gall cymryd rhan mewn trafodaethau fel hyn yn rheolaidd arwain at ddatblygu cymuned ymchwilgar, gan wella meddwl beirniadol pawb, eu sgiliau iaith a’u hymwybyddiaeth foesol.
Mae P4C hefyd yn helpu datblygu awyrgylch o gydweithredu a chynhwysiad yn yr ysgol gyfan, gan ei fod yn annog plant i ystyried teimladau a barn y naill a’r llall, ac i ymateb yn briodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Martin Pollard.