Grŵp Ymgynghorol i Bobl Ifainc
Gwahoddwn ddisgyblion i ymuno â Grŵp Ymgynghorol i Bobl Ifainc.
Rydym yn awyddus i sicrhau y gall dinasyddion ieuainc gyfrannu at wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, er mwyn cyflawni ein cenhadaeth i’w helpu “i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder a fydd yn eu galluogi i gyfrannu at ddyfodol Cymru a’r byd”. Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau ar gyfer gweithgareddau newydd, pynciau ar gyfer digwyddiadau i’r dyfodol, ac a fyddech yn hoffi cael eich cynrychioli ar Bwyllgor Gweithredol CEWC-Cymru.
Os hoffech ddod yn aelod o’r grŵp, e-bostiwch martinpollard@wcia.org.uk os gwelwch yn dda.