Helpwch ni i bennu dyfodol CEWC-Cymru
Un o Amcanion Strategol CEWC-Cymru – a amlinellwyd yn ein Cynllun Busnes ar gyfer 2007-2012 – yw datblygu i fod yn gorff mwy democrataidd, un a fydd yn ymateb mwy i farn y rhai sy’n defnyddio ein gweithgareddau.
Mae’n bleser gennym felly i wahodd athrawon i ddod yn rhan o Grŵp Datblygu Prosiectau newydd, gan drafod prosiectau blaengar ym maes Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF), Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) a meysydd eraill ar y cwricwlwm ysgol.
Ar yr un pryd, gwahoddwn ddisgyblion i ymuno â Grŵp Ymgynghorol i Bobl Ifainc. Rydym yn awyddus i sicrhau y gall dinasyddion ieuainc gyfrannu at wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, er mwyn cyflawni ein cenhadaeth i’w helpu “i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder a fydd yn eu galluogi i gyfrannu at ddyfodol Cymru a’r byd”. Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau ar gyfer gweithgareddau newydd, pynciau ar gyfer digwyddiadau i’r dyfodol, ac a fyddech yn hoffi cael eich cynrychioli ar Bwyllgor Gweithredol CEWC-Cymru.
Os hoffech ddod yn aelod o’r naill grŵp neu’r llall, e-bostiwch martinpollard@wcia.org.uk os gwelwch yn dda.