Datganiad Cenhadaeth

Mae CEWC-Cymru’n bodoli i helpu dinasyddion ifanc i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hunangred fydd yn eu galluogi i gyfrannu tuag at ddyfodol Cymru a’r byd.

 

Gwerthoedd

Credwn:

  • Y dylai pob person ifanc allu cyfranogi fel dinesydd gweithgar o Gymru a’r byd
  • Fod bod yn rhan o’r byd hwnnw’n golygu gwerthfawrogi ei amrywiaeth o ran barnau, gwerthoedd a chefndiroedd diwylliannol
  • Bod rhaid cael ymgysylltiad ymarferol rhwng grwpiau ac unigolion, drwy gyfarfod, cyfnewid barn a dadlau gwahaniaethau
  • Y dylai addysg ddatblygu’r agweddau hyn o gyfranogiad y gymuned drwy bartneriaeth o ysgolion, mudiadau gwirfoddol, cyrff llywodraethol ac eraill

 

Amcanion

 

  • Galluogi pobl ifanc i archwilio materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac i ddatblygu fel dinasyddion gweithgar yn yr ysgol a thu hwnt
  • Galluogi athrawon i addysgu’n effeithiol ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang, ac i ddatblygu cwricwla a strwythurau eu hysgolion i wneud y gorau o gyfleoedd o’r fath
  • Gweithio gyda chyrff llywodraeth leol a chenedlaethol er mwyn hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac fel thema drawsgwricwlaidd o fewn addysg

 

 

Polisïau Perthynol

 

Mae gwerthoedd ac amcanion CEWC-Cymru wedi eu hadlewyrchu mewn polisïau ysgrifenedig ar amddiffyn plant, cyfle cyfartal a chynaliadwyedd (y cyfan ar gael pan wneir cais), ac yn ein hymdrechion i ddarparu digwyddiadau a chyhoeddiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg lle mae hynny’n bosibl.