Bwriad y pecyn hwn yw helpu pobl ifanc archwilio a gwerthuso’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn democratiaeth.
Cafodd y sgiliau sy’n cael eu trafod eu rhoi ar restr fer ar ôl ymgynghori â 250 o bobl ifanc, a dyma nhw:
Mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau drwy gyfrwng gweithgareddau dosbarth ar 6 phwnc sy’n ymwneud â democratiaeth: Masnach Deg, Yr Ymgeisydd Delfrydol, Y Sector Gwirfoddol, Democratiaeth Anffurfiol, Rôl y Cyfryngau a Datganoli. Mae pob gweithgaredd yn cynnwys cynllun gwers, taflen wybodaeth am y pwnc, taflen sgiliau ac unrhyw daflenni gwaith angenrheidiol. Mae taflenni hunanasesu hefyd wedi’u cynnwys, sy’n defnyddio delwedd Parthenon Groeg gyda sgiliau wedi’u nodi ar y pileri.
Bydd yr adnodd yma ar gael yn Gymraeg cyn bo hir.