Adnoddau print
Mae’r adnoddau canlynol wedi cael eu datblygu mewn prosiectau blaenorol, neu’n cael eu defnyddio’n rheolaidd mewn gweithgareddau eraill gan CEWC-Cymru.
E-bostiwch cewc@wcia.org.uk er mwyn archebu. Oni nodir fel arall, mae’r holl adnoddau’n ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ac mae’r prisiau’n cynnwys pris postio.
Sgiliau ar gyfer Democratiaeth (gweler darn i flasu)
Pecyn addysgu cynhwysfawr i annog myfyrwyr 13-16 mlwydd oed i gyfranogi mewn democratiaeth.
Pris: £10 (Cymraeg neu Saesneg) / £15 (dwyieithog)
Neu ar gael am ddim pan ymunwch â’n system Aelodaeth Ar-lein.
Bydd yr adnodd yma ar gael yn Gymraeg cyn bo hir.
Dinasyddion sy'n Meddwl (gweler darn i flasu)
Pecyn cyflwyno ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2 sydd am annog meddwl beirniadol yn y dosbarth.
Neu ar gael am ddim pan ymunwch â’n system Aelodaeth Ar-lein.
Pris: £6 (aelodau) / £8 (eraill)
Pecyn Briffio Model y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig)
Pecyn canllaw 32 tudalen, y gellir ei lungopïo, i drefnu a chymryd rhan mewn cynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig.
Pris: £6 (aelodau) / £8 (eraill)
Neu’n cael ei ddarparu am ddim os byddwch yn cymryd rhan yn un o’n digwyddiadau Model y CU.
Llawlyfr Dadlau (Saesneg yn unig)
Arweiniad i ddadlau ar gyfer athrawon, disgyblion a beirniaid. Mae’n cynnwys arweiniad ar bob agwedd o sgiliau dadlau, rheolau cystadleuaeth ddadlau genedlaethol CEWC-Cymru, a chyngor ar sefydlu eich clwb dadlau eich hun.
Pris: £3 (am ddim os ydych yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru)
Taflen gwybodaeth cyffredinol CEWC-Cymru
Taflen lliw yn crynhoi’n gweithgareddau i gyd.
Pris: am ddim
Cylchlythyr
Cysylltwch â ni os hoffech roi’ch enw ar ein rhestr bostio a derbyn ein llythyr newyddion. Mae detholiad o rifynnau blaenorol ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Pris: am ddim
Crynodeb o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Poster amryliw A2, i'w ddefnyddio fel adnodd addysgol neu i'w arddangos. Mae fersiwn blaenorol o'r poster ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Pris: 25c neu £6 am 30 copi (angen talu cludiant)
Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol
Llyfryn a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (CCU) Cymru.
Pris: 25c neu £5 am 30 copi (angen talu cludiant)
Pasbort i'r Cenhedloedd Unedig
Cyflwyniad dwyieithog CCU Cymru i waith y sefydliad rhyngwladol.
Pris: £1 (angen talu cludiant)